Dydd Mercher 4 Hydref, 2023:  10.00am – 12.00pm
	Mae Gwerth am Arian (GAA) yn flaenoriaeth allweddol i’r Sector Tai Cymdeithasol a thenantiaid: mae’n sbardun allweddol ar gyfer Rheoleiddio ac ar gyfer sicrhau fforddiadwyedd rhenti a thaliadau gwasanaeth.
	- 
		Sut gall tenantiaid gymryd rhan mewn sgyrsiau Gwerth am Arian? 
- 
		Sut allwch chi ddangos i denantiaid a rhanddeiliaid eraill bod Gwerth am Arian yn cael ei ddarparu?
	Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hyfforddi ryngweithiol, hwyliog hon lle byddwn yn rhannu sut y gallwch ddefnyddio ein model ‘6 pwynt o GAA’ i gynnwys tenantiaid yn well wrth lunio, darparu ac asesu gwerth am arian.
	Pwy ddylai fynychu?
	Staff, aelodau bwrdd a thenantiaid sy'n ymwneud â, neu sydd â diddordeb mewn Gwerth am Arian
	Cost
	- 
		Tenantiaid: £29 +TAW
- 
		Staff/Bwrdd (aelodau):  £49 +TAW
- 
		Staff/Board (dim yn aelodau): £89 +TAW
	Pethau i'w Gwybod:
	- 
		Gwebinar dros Zoom yw hwn
- 
		Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
	Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZIsc-GsqzMiGtMc8t1WWLXBAyY53Gjz58z5
	Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch sbam/ blychau e-bost sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
	
		
			Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
		
			- 
				Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
- 
				Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
- 
				Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
- 
				Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
- 
				Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
			Hawl TPAS Cymru i Ganslo
		
			Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
	 
	
		 
 
	 
                                
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y digwyddiad
                                                Teitl y Digwyddiad
                                                
                                                    Cynnwys Tenantiaid wrth Asesu Gwerth am Arian Hydref 2023
                                                
                                                Dyddiad
                                                
                                                    Dydd Mercher
                                                    04
                                                    Hydref
                                                    2023, 10:00 - 12:00
                                                
                                                Archebu Ar gael Tan
                                                
                                                    Dydd Iau 28 Medi 2023
                                                
                                                
			
                                                    Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
                                                    
                                                        
                                                    
                                                
		 
                                                Math o ddigwyddiad
                                                
                                                    Hyfforddiant
                                                
                                                Yn addas ar gyfer
                                                
                                                    I gyd
                                                
                                                
                                                    Cost
                                                    
                                                        Members: £0.00+ VAT 
 Non-Members: £0.00 + VAT
                                                    
                                                 
                                                Siaradwr
                                                
                                                    Helen Williams
                                                
                                                
                                             
                                         
                                     
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y Lleoliad
                                                Enw Lleoliad
                                                
                                                    Online
                                                
                                                Cyfeiriad y Lleoliad
                                                
                                                    
                                                    
                                                
                                                
                                                    
                                                        