Gyda'r effaith ar denantiaid yn parhau i wneud penawdau ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn Ford Gron hanfodol hon i archwilio'r ffordd orau i'r sector gefnogi ac ymgysylltu â thenantiaid.

Dadfeilio - cefnogi ac ymgysylltu â thenantiaid. (Sesiwn ar-lein)

Mae'r Sesiwn hon yn awr yn llawn - cysylltwch â [email protected] i roi eich enw ar y rhestr wrth gefn

Dydd Mawrth 13 Medi, 9:30am – 11am

Yn dilyn ein sesiwn Bord Gron gyntaf ym mis Mai rydym yn cynnal sesiwn ddilynol.

Gyda'r effaith ar denantiaid yn parhau i wneud penawdau ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn Ford Gron hanfodol hon i archwilio'r ffordd orau i'r sector gefnogi ac ymgysylltu â thenantiaid.

Bydd y sesiwn yn galluogi mynychwyr i rannu ymarfer a dysgu gan eraill. 

Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn canolbwyntio ar rai themâu allweddol:

  • Cymryd perchnogaeth – sut y mae landlordiaid yn ymateb i adroddiadau a phryderon ynghylch dadfeiliad ac yn delio â hwy , pa brosesau sydd gennych ar waith?
  • Tôn – sut mae landlordiaid yn cael 'tôn' eu cyfathrebiadau a'u cymorth yn iawn
  • Hyfforddiant – pa hyfforddiant sydd ei angen ar staff/contractwyr i gefnogi tenantiaid ac ymdrin â phryderon dadfeiliad yn effeithiol ac yn sensitif?

Bydd TPAS Cymru yn rhannu syniadau a bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu dulliau gweithredu ac ymarfer gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol.

Dyma gyfle i siarad yn agored gyda chyfoedion ac archwilio beth sy’n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i denantiaid.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn – mae'r sesiwn Ford Gron hon ar gyfer staff sy'n gyfrifol am feysydd cysylltiedig megis: rheoli asedau, atgyweirio, cwynion a gwella gwasanaethau.

Mae hon yn sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru.

Mae'r Sesiwn hon yn awr yn llawn - cysylltwch â [email protected] i roi eich enw ar y rhestr wrth gefn

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Dadfeilio - cefnogi ac ymgysylltu â thenantiaid. (Sesiwn ar-lein)

Dyddiad

Dydd Mawrth 13 Medi 2022, 09:30 - 11:00

Archebu Ar gael Tan

12 Medi 2022

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X