Dydd Mercher 8 Ionawr 2025: 11.00am – 12.30pm
	Sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yw hon yn arbennig ar gyfer staff o aelod-sefydliadau TPAS Cymru
	Effaith diffyg atgyweirio: mae lleithder a llwydni yng nghartrefi tenantiaid yn parhau i fod yn uchel ar agendâu, gan gynnwys yn SATC23 ac adroddiad diweddaraf yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (OGCC).
	Byddwch yn rhan o’r sesiwn Bord Gron staff hanfodol hon i archwilio a rhannu sut mae’r sector yn parhau i ymateb a chefnogi tenantiaid mewn ymateb i ddisgwyliadau Tenantiaid a’r sector.
	Fforwm Bord Gron yw hwn i’ch galluogi i rwydweithio, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau a rhannu dulliau gweithredu ac ymarfer gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol.
	Yn ystod y Ford Gron nesaf hwn byddwn yn canolbwyntio ar rai themâu allweddol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn adroddiad OGCC:
	.png)
	- 
		Materion mynediad – sut mae sefydliad yn lleihau materion sy'n ymwneud â mynediad ar gyfer archwiliadau a gwaith atgyweirio tra'n cefnogi Tenantiaid?
- 
		Pryderon, cwynion yn erbyn ceisiadau am wasanaeth – Sut mae sefydliadau'n ymdrin ag adroddiadau o ddiffyg atgyweirio/lleithder a llwydni?
- 
		Archwiliadau cyn gosod – sut mae landlordiaid yn sicrhau bod cartrefi mewn cyflwr da ac yn addas i fyw ynddynt ar y pwynt gosod?
- 
		Cyfathrebu a gwybodaeth i denantiaid – Beth sy’n gweithio? Pa fath o gyfathrebiadau a gwybodaeth sy'n ymwneud â lleithder a llwydni sy'n cael effaith gadarnhaol?
	Beth yw nod y sesiwn? - Dyma gyfle i chi siarad yn agored gyda chyfoedion, i rannu ac archwilio beth sy'n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i denantiaid.
	Ar gyfer pwy mae’r sesiwn? – mae'r sesiwn Ford Gron hon ar gyfer staff sy'n gyfrifol am feysydd cysylltiedig megis: rheoli asedau, atgyweirio, cwynion a gwella gwasanaethau.
	Mae hon yn sesiwn ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig.
	 
                                
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y digwyddiad
                                                Teitl y Digwyddiad
                                                
                                                    Diffyg Atgyweirio: Bord Gron Lleithder a Llwydni ar gyfer staff
                                                
                                                Dyddiad
                                                
                                                    Dydd Mercher
                                                    08
                                                    Ionawr
                                                    2025, 11:00 - 12:30
                                                
                                                Archebu Ar gael Tan
                                                
                                                    Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025
                                                
                                                
			
                                                    Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
                                                    
                                                        
                                                    
                                                
		 
                                                Math o ddigwyddiad
                                                
                                                    
                                                
                                                Yn addas ar gyfer
                                                
                                                    Landlordiaid
                                                
                                                
                                                    Cost
                                                    
                                                        Members: £0.00+ VAT 
 Non-Members: £0.00 + VAT
                                                    
                                                 
                                                Siaradwr
                                                
                                                    david lloyd
                                                
                                                
                                             
                                         
                                     
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y Lleoliad
                                                Enw Lleoliad
                                                
                                                    Online
                                                
                                                Cyfeiriad y Lleoliad
                                                
                                                    
                                                    
                                                
                                                
                                                    
                                                        