Dydd Iau, 13 Mai: 12:45 – 13:30
Rhoddodd canfyddiadau ein Pwls Tenantiaid diweddaraf gipolwg go iawn inni ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth tenantiaid yng Nghymru, mewn perthynas â'r heriau amgylcheddol. Gwnaethom ymchwilio i agweddau a chanfyddiadau o'r newid i dechnolegau carbon isel ac ymddygiadau sy'n ymwybodol o garbon yn seiliedig ar grwpiau cymdeithasol-ddemograffig.
Mae ein dadansoddiad yn tanlinellu pwysigrwydd creu mwy o ymwybyddiaeth ac addysgu tenantiaid o'r effaith y mae tai yn ei chael ar allyriadau hinsawdd a buddion technolegau newydd. Mae'n pwysleisio gwahanol ganfyddiadau yn seiliedig ar oedran, lefel addysg, statws cyflogaeth a deiliadaeth, tra hefyd yn ystyried y dulliau ymgysylltu wrth weithio gyda thenantiaid i ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.
Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg i chi o'n canlyniadau i lywio'ch strategaethau ymgysylltu wrth weithio gyda thenantiaid yn ystod camau cynllunio datgarboneiddio cartrefi.
Cofrestrwch trwy ddefnyddio’r ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_h9tzsD_hS_yaVYbwm-ed_A
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Dyma sut rydyn ni'n ymgysylltu â thenantiaid pan rydyn ni'n datgarboneiddio cartrefi
Dyddiad
Dydd Iau
13
Mai
2021, 12:45 - 13:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 13 Mai 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Elizabeth Taylor
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad