Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021: 11.00am - 12.30pm
Yn ystod ein Rhwydwaith Staff Tai â Chymorth ym mis Tachwedd byddwn yn clywed gan Tai Dewis Cyntaf am eu prosiectau Cyfranogiad Tenantiaid llwyddiannus. Bydd cyfle hefyd i chi gwrdd ag aelodau eraill o staff, rhwydweithio, rhannu syniadau a gofyn am gyngor! Os nad ydych wedi mynychu un o'n rhwydweithiau o'r blaen, bydd croeso mawr i chi!
O Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf, bydd Mo (Rheolwr Tai Gweithredol) ac Eve (Cydlynydd Iechyd a Lles) yn trafod rhai o'r cynlluniau mwy diweddar a chynlluniau'r dyfodol ar gyfer cyfranogiad tenantiaid. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltiad y sefydliad dai â 'Gig Buddies', eu cylchlythyr chwarterol gyda chystadlaethau, cynlluniau ar gyfer digwyddiadau tenantiaid yn y dyfodol, a'u cydweithrediad â Chymunedau Digidol Cymru wrth ddarparu 190 o ddyfeisiau electronig (a mesur canlyniadau'r cynllun cynhwysiant digidol hwn o ran iechyd a lles). Mae gwaith pellach hefyd wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd gofod y tu allan a chydlyniant cymunedol, gyda chynlluniau i gynnal parti gardd a chyllid wedi'i sicrhau i osod gerddi ffrwythau a pherlysiau mewn tri eiddo'r sefydliad dai.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru.
Cliciwch ar y ddolen Zoom yma i gofrestru eich lle: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwudu6oqjoqE9OA1nPbrKYU1F0gN3snhpaI
Noder: ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.
Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Staff Tai â Chymorth
Dyddiad
Dydd Mercher
10
Tachwedd
2021, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 04 Tachwedd 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad