1 Tachwedd 2023, 10:30am-12pm
Rhwydwaith Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid - Arolygon Bodlonrwydd Safonol, rhannu prosesu a dulliau
Mae'r digwyddiad hwn am ddim ac yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru.
Arolygon Bodlonrwydd Safonol yw un o'r pynciau poethaf ym maes tai ar hyn o bryd, pa bynnag gam y byddwch ynddo o fewn eich sefydliad. Felly, sut ydych chi'n ei wneud? Beth yw eich prosesau a'ch dulliau?
Bydd y Rhwydwaith Swyddogion hwn yn rhoi’r cyfle i ni drafod beth yw eich cynlluniau o ran arolygon bodlonrwydd, sut rydych chi’n mynd at denantiaid ac awgrymiadau ar gyfer llwyddiant a chyflwyniad llyfn o arolygon ar draws eich cymunedau. Gadewch i ni drafod sut rydych chi'n dadansoddi arolygon i sicrhau bod eich canlyniadau'n cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau a phrofiadau tenantiaid.
Felly, sut allwch chi gael y gorau o'ch arolygon? Pa dechnegau allwch chi roi cynnig arnyn nhw a phwy ydych chi'n eu targedu ar gyfer yr ymgysylltiad gorau?
Ymunwch â ni yn ein Rhwydwaith Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid anffurfiol nesaf lle byddwn yn archwilio syniadau ac atebion gyda'n gilydd.
Gadewch i ni siarad amdano gyda’n gilydd fel cymuned dai.
Dyma gyfle i siarad yn agored gyda chyfoedion ac archwilio beth sy’n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon?
Mae'r sesiwn hon ar gyfer staff sy'n ymwneud ag ymgysylltu / cyfranogiad tenantiaid a chyfathrebu â thenantiaid.
Gallwch gofrestru i sicrhau eich lle am ddim drwy'r ddolen isod -
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUuce-tqD8iGdI-nH0-9s7o5B4InYkLzV9Q
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid
Dyddiad
Dydd Mercher
01
Tachwedd
2023, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 31 Hydref 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Dylanwad a chraffu
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Eleanor Speer
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad