Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer tenantiaid sy’n gyfrifol am drefnu a chadeirio/hwyluso cyfarfodydd ar-lein.

Sut i gynnal cyfarfodydd ar-lein cadarnhaol ac effeithiol

Dydd Mawrth18 Mai: 2021: 09.30am – 12.30am

Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer tenantiaid sy’n gyfrifol am drefnu a chadeirio/hwyluso cyfarfodydd ar-lein.

Bydd y sesiwn hyfforddi ryngweithiol ar-lein hon yn edrych ar yr heriau ac yn archwilio'r canllawiau ar gyfer cynnal cyfarfodydd / digwyddiadau ar-lein sy'n gadarnhaol ac yn effeithiol.

Amcanion y cwrs yw:

  • Ystyried y gwahaniaethau rhwng cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb - yr hyn y mae angen i chi ei ystyried
  • Myfyrio ar bwy sy'n gwneud beth - cefnogaeth ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd ar-lein ac ati.
  • Archwilio pwysigrwydd Rhaglenni / Agendâu mewn cyfarfodydd
  • Adolygu, adolygu, adolygu

Cost: £49 i aelodau (£69 i bawb arall)

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch ar y ddolen Zoom yma  https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZEscuqhrjsrE9aBWWC8YANtnABH54_PDixj

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.

Hawl TPAS Cymru i Ganslo

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i gynnal cyfarfodydd ar-lein cadarnhaol ac effeithiol

Dyddiad

Dydd Mawrth 18 Mai 2021, 09:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

17 Mai 2021

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Helen Williams

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Webinar

Cyfeiriad y Lleoliad

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost
 
Cost y Digwyddiad
Aelodau   Pris Llawn: £59.00  
Pawb Arall   Pris Llawn: £89.00  

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X