Dydd Mawrth 3 Tachwedd: 1pm – 2.30pm
"Y Clwb Cyfathrebiadau" – fforwm cyfathrebu ar-lein gan TPAS Cymru.
Ar gyfer yr holl staff sy'n ymwneud â chreu cyfathrebiadau i denantiaid
Byddwn yn cynnal ein fforwm ar-lein nesaf ym mis Tachwedd ar gyfer pawb sy'n gweithio mewn cyfathrebu neu'n ymwneud â chyfathrebu. Byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni.
Nawr yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol sicrhau bod eich cyfathrebiadau'n iawn i denantiaid, yn enwedig wrth i'r trefniadau darparu gwasanaeth barhau i newid.
Byddwch yn rhan o’n ‘Clwb Cyfathrebiadau’ cyffrous i gyfarfod ag eraill sydd hefyd yn datblygu cyfathrebiadau gwych i denantiaid.
Sesiwn Holi ac Ateb fydd hon gyda Holly McAnoy o Tai Taff ar sut y creodd wefan newydd trwy ymgynghori â thenantiaid a sut cafwyd sawl canlyniad anfwriadol!
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn gyfan gwbl i aelodau TPAS Cymru. Mae croeso i chi rannu manylion gyda chydweithwyr perthnasol a allai fod â diddordeb
Diddordeb?
Mae angen i chi gofrestru drwy'r dolen zoom yma. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd Zoom yn cynhyrchu dolen i chi ei ddefnyddio i ymuno efo ni ar y diwrnod.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Y Clwb Cyfathrebiadau
Dyddiad
Dydd Mawrth
03
Tachwedd
2020, 13:00 - 14:30
Archebu Ar gael Tan
02 Tachwedd 2020
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Helen Williams
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad