Dydd Mawrth 26 a Dydd Iau 28 Medi: 10am – 12.30pm
	Mae'r byd wedi newid yn ystod y dair mlynedd diwethaf ac felly hefyd y ffordd yr ydym yn ymgysylltu. Yn ddifwriad, rydym yn aml yn gosod rhwystrau sy'n pobl rhag cymryd rhan yn y digwyddiadau rydyn ni'n eu cynllunio i'w cynnwys nhw!
	Bydd y 2 x sesiwn hyfforddi hanner diwrnod hyn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion a sefydliadau i osgoi creu rhwystrau ac i'w gwneud hi'n haws i bobl rydym eisiau ymgysylltu â nhw i gymryd rhan
	Rhennir y cwrs hwn dros ddau fore:
	Sesiwn 1:  Byddwn yn edrych ar y theori ynghylch ymgysylltu cynhwysol
	- 
		Archwilio buddion cyfranogiad ac ymgysylltiad
 
	- 
		Nodi rhwystrau i ymgysylltu â grwpiau ‘angen eu cyrraedd’.
 
	- 
		Cydnabod sut i osgoi neu ddileu rhwystrau i gyfranogiad ac ymgysylltiad
 
	Session 2: Putting the theory into practice
	- 
		Dylunio cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad / ymgysylltiad cynhwysol
 
	- 
		Ymarfer rhai dulliau gwahanol o adolygu gweithgareddau
 
	- 
		Mynd â rhywfaint o ddysg ac arfer da i ffwrdd efo chi
 
	Datblygwyd y cwrs hwn fel partneriaeth rhwng Tai Pawb a TPAS Cymru gan ddefnyddio arbenigedd a rennir o’r ddau sefydliad. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i adlewyrchu arfer da a bydd yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr profiadol o'r ddau sefydliad.
	Cost i fynychu'r ddwy sesiwn:
	£65 + TAW ar gyfer aelodau TPAS Cymru / Tai Pawb;   £90 + TAW i bawb arall
	Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom hon: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwof-iurDwoE9aCjkJifRUwRbEtMncMwQH5
	Bydd y ddolen a gewch yn gweithio ar gyfer y ddwy sesiwn
	
		Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
	
		- 
			Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
 
		- 
			Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
 
		- 
			Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
 
		- 
			Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
 
		- 
			Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
 
	
	
		Hawl TPAS Cymru i Ganslo
	
		Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
 
	 
                                
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y digwyddiad
                                                Teitl y Digwyddiad
                                                
                                                    Ymgysylltu cynhwysol - gwneud pethau'n iawn mewn byd newydd 
                                                
                                                Dyddiad
                                                
                                                    Dydd Mawrth
                                                    26
                                                    Medi
                                                    2023, 10:00 - Dydd Iau28Medi2023, 12:30
                                                
                                                Archebu Ar gael Tan
                                                
                                                    Dydd Gwener 22 Medi 2023
                                                
                                                
                                                Math o ddigwyddiad
                                                
                                                    Hyfforddiant
                                                
                                                Yn addas ar gyfer
                                                
                                                    I gyd
                                                
                                                
                                                    Cost
                                                    
                                                        Members: £0.00+ VAT 
 Non-Members: £0.00 + VAT
                                                    
                                                 
                                                Siaradwr
                                                
                                                    Guest Speaker
                                                
                                                
                                             
                                         
                                     
                                    
                                        
                                            
                                                Gwybodaeth am y Lleoliad
                                                Enw Lleoliad
                                                
                                                    Online
                                                
                                                Cyfeiriad y Lleoliad