Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021: 11am – 12noon
Gadewch i ni rannu a chydnabod arfer da cyfranogiad tenantiaid a chymunedau ledled Cymru! 
Gwyddom eich bod oll yn gwneud llawer o ymgysylltu gwych rhwng tenantiaid a chymunedau, sydd ddim wedi bod yn dasg hawdd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein Gwobrau yn ymroddedig i gydnabod y cyflawniadau hyn ac i rannu’r arfer da ar draws cymunedau a'r sector tai i gefnogi ac ysbrydoli eraill.
Gydag enwebiadau gwych wedi'n cyrraedd, mae’r beirniaid yn sicr wedi cael trafferth dewis enillwyr gan ei bod yn amlwg bod cymaint o waith caled wedi'i wneud gan denantiaid rhyfeddol, gwirfoddolwyr cymunedol a staff tai.
Cyhoeddir yr enillwyr yn ein digwyddiad ar-lein ar 15 Rhagfyr, gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni o'ch cartrefi neu'ch swyddfeydd.
Ymunwch â phobl frwdfrydig ac ymroddedig eraill o bob rhan o Gymru yn ein digwyddiad rhithiol cenedlaethol, i gydnabod yr effaith aruthrol y mae pobl ledled y wlad wedi'i chael yn ein cymunedau.
Noddir y digwyddiad hwn yn garedig gan 
Cliciwch ar y ddolen Zoom isod i gofrestru a diogelu eich lle https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_w4h5Uwg9QHu4Wh9AZf9jjA
Noder - Ar ôl i chi gofrestru trwy'r ddolen uchod, byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.
Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
‘Gwobrau Arfer Da’ Cenedlaethol TPAS Cymru
Dyddiad
Dydd Mercher
15
Rhagfyr
2021, 11:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
13 Rhagfyr 2021
Math o ddigwyddiad
Gwerthfawrogi ymgysylltiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad