Dydd Mawrth 15 Rhagfyr: 11am - 12pm
(byddwch yn gallu cysylltu am 10.45 i sgwrsio'n anffurfiol cyn cychwyn)
Fel llawer o ddigwyddiadau mawr a gynlluniwyd ar gyfer eleni, nid oeddem yn gallu cynnal ein digwyddiad Gwobrau Cyfranogiad dathliadol blynyddol, gobeithiwn y bydd yn ôl y flwyddyn nesaf, yn fwy nag erioed! Yn y cyfamser, rydym eisiau cydnabod gwaith caled ein haelodau; landlordiaid, tenantiaid a chymunedau, wrth gwrdd â heriau argyfwng Covid-19 ac wrth gefnogi tenantiaid yn ystod yr amser anodd hwn. I'r perwyl hwn, rydym wedi creu ‘Gwobrau Cydnabyddiaeth’ 2020. 4 Gwobr yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig mewn argyfwng.
Gyda dros 50 o enwebiadau wedi'u derbyn, mae’r beirniaid yn sicr wedi cael trafferth dewis enillwyr gan ei bod yn amlwg bod cymaint o waith caled wedi'i wneud gan denantiaid rhyfeddol, gwirfoddolwyr cymunedol a staff tai.
Cyhoeddir yr enillwyr yn ein digwyddiad ar-lein ar 15 Rhagfyr, gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni o'ch cartrefi neu'ch swyddfeydd.
Ymunwch â phobl frwdfrydig ac ymroddedig eraill o bob rhan o Gymru yn ein digwyddiad rhithiol cenedlaethol, i gydnabod yr effaith aruthrol y mae pobl ledled y wlad wedi'i chael yn ein cymunedau.
Noddir y digwyddiad hwn yn garedig gan 
Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru a diogelu eich lle https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_0MgUnxOpSLOcLVjyi0V_NA (Gan fod lleoedd yn brin, mae angen i chi gofrestru eich lle cyn y digwyddiad)
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
‘Gwobrau Cydnabyddiaeth’ Cenedlaethol 2020 TPAS Cymru
Dyddiad
Dydd Mawrth
15
Rhagfyr
2020, 11:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Sul 13 Rhagfyr 2020
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwerthfawrogi ymgysylltiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad