Ymunwch â ni ar gyfer ein hyfforddiant poblogaidd sydd wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru!  Mae cefnogi ac ymateb i denantiaid sydd â phryderon am damprwydd a llwydni yn faes hanfodol y mae angen i landlordiaid cymdeithasol ei gael yn iawn.

Hyfforddiant Cyfathrebu Damp a Llwydni

5 Hydref 2022, 10:30am -12:30pm

Ymunwch â ni ar gyfer ein hyfforddiant poblogaidd sydd wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru!  Mae cefnogi ac ymateb i denantiaid sydd â phryderon am damprwydd a llwydni yn faes hanfodol y mae angen i landlordiaid cymdeithasol ei gael yn iawn.

Bydd y gweithdy ar-lein rhyngweithiol newydd hwn yn edrych ar sut y gall staff landlord ddelio orau ag ymholiadau am damprwydd, llwydni ac angar ac archwilio sut mae rhoi cyngor ystyrlon sy'n cefnogi tenantiaid.

Byddwn yn defnyddio rhai enghreifftiau 'bywyd go iawn' o'r math o gwestiynau y mae tenantiaid yn eu gofyn a byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer sut y gall staff ymateb i roi gwasanaeth gwych a chefnogol i gwsmeriaid.

Pethau i'w gwybod
  • Gan y bydd hwn yn weithdy rhyngweithiol bydd gofyn i chi droi eich camerâu ymlaen.
  • Efallai y byddem yn defnyddio ystafelloedd trafod hefyd i alluogi trafod a rhannu arferion da

Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn addas i staff rheng flaen a rheolwyr sydd â chysylltiad â thenantiaid ac sydd am adolygu a gwella sut maent yn ymateb i'w cwestiynau a'u cwynion.

Cost:
Staff (aelodau) - £49 + TAW

Pawb arall - £79 + TAW

Archebwch drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZYkce2tqzkqGdbQLbhAr0HmrYn2wNYdazcI

Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Hyfforddiant Cyfathrebu Damp a Llwydni

Dyddiad

Dydd Mercher 05 Hydref 2022, 10:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 04 Hydref 2022

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

David Wilton

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad

Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X