Dydd Gwener 27 Tachwedd: 10:00am-11:00am
Sesiwn ryngweithiol gyda Llyfrgell Pethau gyntaf Cymru
Sesiwn am ddim gydag Ella Smillie - Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Benthyg - Borrow Don't Buy (http://www.benthyg.org) Llyfrgell Pethau gyntaf Cymru (a'r unig un hyd yn hyn). Bydd Ella yn adrodd hanes Benthyg.org yng Nghaerdydd ac ateb eich cwestiynau am sut mae'n gweithio.
Mae Llyfrgell Pethau yn dal yr eitemau hynny fel driliau pŵer, pebyll, offerynnau cerdd, peiriannau torri lawnt ac ati y gall pobl fenthyg am brisiau isel yn ôl yr angen. Mae hyn yn cefnogi lleihau tlodi ac yn ei dro yn lleihau gwastraff ac yn cyfrannu at economi fwy cylchol.
Mae Benthyg wedi dechrau'r chwyldro yng Nghymru a dyma'ch cyfle i ddysgu mwy a thrafod gyda'r cyd-sylfaenydd. Rydyn ni am i chi gael eich ysbrydoli i weithredu yn eich cymuned. Mae'r math hwn o wasanaeth cymunedol yn weithredol ledled y byd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae'r sesiwn hon yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac unrhyw sefydliadau cymunedol y mae ein haelodau'n eu cefnogi'n uniongyrchol.
Agenda
-
Agoriad a chroeso gan hwylusydd TPAS Cymru, David Wilton – 5munud
-
Ella yn cyflwyno'r llyfrgell o bethau a stori anhygoel Benthyg.org – 15munud
-
Sesiwn Cwestiynau Cyffredin rhyngweithiol lle byddwch chi'n cael gofyn y cwestiynau - 20-25munud
-
Sylwadau i gloi / camau nesaf gan yr hwylusydd - 5munud
I gofrestru cliciwch ar y ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZcrc-GgrD0oEtdH4aZ4jJWUYDUJ5d-GnO1l
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Llyfrgell Pethau: dyfodol cynaliadwy ein cymunedau
Dyddiad
Dydd Gwener
27
Tachwedd
2020, 10:00 - 11:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
David Wilton
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad