Dydd Iau 18 Mehefin – 11am - (oddeutu 45 munud)
Trwy gydol y pandemig Covid-19 mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru wedi parhau gyda'r ffocws ar effaith y pandemig ar weithrediadau, yn bennaf diogelwch tenantiaid a gwytnwch ariannol. Felly sut mae rheoleiddio yn gweithio ar hyn o bryd? Sut mae rheoleiddio yn helpu i amddiffyn tenantiaid a buddsoddiad yng Nghymdeithasau Tai Cymru? Sut fydd gwaith rheoleiddio yn mynd yn ei flaen?
Yn ymuno â ni bydd Ian Walters, o Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru, i ddarparu’r diweddariad diweddaraf.