Mae ein Rhwydwaith Anabledd poblogaidd nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 6ed Ebrill. Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at staff neu denantiaid sydd â diddordeb mewn materion sy'n effeithio ar bobl sy'n byw ag anableddau mewn tai cymdeithasol.

Rhwydwaith Anabledd - Ebrill 2022

Dydd Mercher 6 Ebrill: 10.30 – 12pm

Mae ein Rhwydwaith Anabledd poblogaidd nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 6ed Ebrill. Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at staff neu denantiaid sydd â diddordeb mewn materion sy'n effeithio ar bobl sy'n byw ag anableddau mewn tai cymdeithasol. 

Yn y rhwydwaith hwn bydd Alicja Zalesinska o  Tai Pawb  yn ymuno â ni. Mae Tai Pawb wrthi’n datblygu Safonau ar Ddyrannu Tai Cymdeithasol Hygyrch ar gyfer awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Bydd y canllawiau’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o ymrwymiadau LlC o dan y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd, i wella sut mae tai hygyrch yn cael eu dyrannu. Mae Alicja eisiau clywed eich barn ar y pwnc hwn!

Bydd cyfle hefyd i glywed am arfer da a rhannu gyda chynadleddwyr eraill. 

Os nad ydych wedi mynychu’r Rhwydwaith Anabledd o’r blaen bydd croeso mawr i chi

Cost:
£29 – Aelodau
£69 – Pawb arall
 

Archebwch eich lle drwy’r ddolen zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0odeCqrDspHNX1KhJwwfILJOjIFwcoSrWW

Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook

-------

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Anabledd - Ebrill 2022

Dyddiad

Dydd Mercher 06 Ebrill 2022, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

04 Ebrill 2022

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X