Dydd Iau, 23 Mai 2024: 10.30am – 12pm
Mae hwn yn gyfle delfrydol i adael i ni glywed eich barn……
Ymunwch â ni ar 23 Mai i drafod gwaith diweddar y Tasglu Hawliau Anabledd (DRT) ar dai hygyrch. Mae’r DRT wedi cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi ystyried tystiolaeth gan bobl anabl, eiriolwyr a sefydliadau dylanwadol.
Gydag argymhellion ar draws themâu amrywiol yn ymwneud â thai - o gofrestrau tai hygyrch i ddyraniadau a rhyddhau o'r ysbyty - mae'r gwaith yn bwydo i mewn i gynllun ehangach ar gyfer pobl anabl yng Nghymru yn 2025 ac rydym am glywed eich barn!
Bydd Ross Thomas (Tai Pawb) yn cyflwyno’r argymhellion drafft ochr yn ochr ag awgrymiadau a wnaed gan Tai Pawb i’w cryfhau. Rydym yn obeithiol y bydd cydweithiwr o Lywodraeth Cymru hefyd yn ymuno â ni.
Pwy ddylai fynychu? Tenantiaid neu staff sydd â diddordeb mewn materion sy'n effeithio ar bobl sy'n byw ag anableddau.
Cost: Am ddim i aelodau TPAS Cymru neu Tai Pawb
Pethau i'w gwybod:
-
Sesiwn ar lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUscOmtqDorE9T1PWYeDmjggThOvttNHkRj
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Anabledd gyda TPAS Cymru a Tai Pawb
Dyddiad
Dydd Iau
23
Mai
2024, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 21 Mai 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad