Dydd Iau, 23 Tachwedd: 11am – 12.30pm
A yw sector tai Cymru yn adeiladu cartrefi sydd eu hangen ar denantiaid a thrigolion sy’n byw ag anableddau? A yw'r cartrefi hyn yn ddymunol i denantiaid a phreswylwyr sy'n byw ag anableddau?
Ymunwch â ni yn ein Rhwydwaith Anabledd ar-lein nesaf a rhannwch eich barn.
Mae adeiladu’r cartrefi cywir i ateb y galw yn hanfodol o ystyried yr angen tai presennol yng Nghymru, ond sut y gall y sector tai wneud yn siŵr ei fod yn adeiladu cartrefi sy’n ddymunol ac yn diwallu anghenion pobl sy’n byw ag anableddau a’u gofalwyr?
-
Beth sy'n bwysig i denantiaid am gartref?
-
Pa fathau o eiddo sydd eu hangen/dymunir mewn gwirionedd gan denantiaid presennol a rhai'r dyfodol sy'n byw ag anableddau?
-
A ddylai cymunedau fod yn rhan o asesiad o ba gartrefi sy'n cael eu hadeiladu?
Mae TPAS Cymru yn gweithio gyda Shelter Cymru https://sheltercymru.org.uk/ i edrych ar y cwestiynau hyn fel rhan o waith ymchwil i’w rannu ledled Cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar y mater pwysig hwn.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn?
Tenantiad a staff sydd â gwybodaeth o, neu ddiddordeb mewn materion sy'n effeithio pobl sy'n byw ag anableddau.
Archebwch drwy'r ddolen Zoom yma:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZEqd-GvrDgtHNSwepbHoOTGFdcPq0r3ELVA
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru neu Tai Pawb
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Anabledd mis Tachwedd
Dyddiad
Dydd Iau
23
Tachwedd
2023, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad