Dydd Iau 24 Mawrth 2022: 1.30pm – 3pm
Bydd y sesiwn yn cael ei hwyluso gan ein cydymaith newydd gwych Sam Evans. Mae gan Sam brofiad helaeth o weithio gyda chymunedau ledled Cymru yn ogystal â llawer o wybodaeth a syniadau i’w rhannu!
Mae cymunedau a chymdogion wedi bod yn bwysicach nag erioed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o bobl wedi bod allan o’r arferiad o fod mewn cysylltiad â’u cymuned, ac efallai ein bod ni’n teimlo ychydig allan o ymarfer ein hunain. Wrth i gyfyngiadau Covid leddfu a chyda’r Gwanwyn a’r Haf ar eu ffordd, sut allwn ni fynd allan a chefnogi ac ymgysylltu â chymunedau eto? Pa weithgareddau ydych chi'n eu gwneud yn barod neu wedi'u cynllunio? Sut gallwn ni ail ennyn brwdfrydedd cymunedau? Sut gallwn ni gadw pobl i deimlo'n ddiogel yn ystod gweithgareddau cymunedol?
Ymunwch â ni i archwilio’r themâu hyn gyda’n gilydd a rhannu syniadau ar sut y gallwn gefnogi ein hunain ac eraill i ailgysylltu, er mwyn hyrwyddo cymunedau hapus, iach a hygyrch.
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff sy'n ymwneud â gweithgareddau ymgysylltu â Thenantiaid a/neu gymunedol
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac ar gyfer Aelodau TPAS Cymru yn unig
Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwucOGoqjIpGdx6MvIw5JMMtfBiiOw1sdRi
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Swyddogion Mawrth 2022
Dyddiad
Dydd Iau
24
Mawrth
2022, 13:30 - 15:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad