11 Mai 2023, 10:30am-12pm.
Cael mwy o denantiaid i gymryd rhan: beth sy'n gweithio?
Mae'r digwyddiad hwn am ddim ac yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru.
Fel sector, rydym i gyd eisiau gweld mwy o denantiaid yn cymryd rhan a chael dweud eu dweud, gan gynnwys tenantiaid nad ydym fel arfer yn clywed ganddynt. Felly, sut allwn ni gyflawni hyn a pha ddulliau sy'n gweithio?
Ymunwch â ni yn ein Rhwydwaith Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid anffurfiol nesaf lle byddwn yn archwilio syniadau ac atebion gyda'n gilydd.
Efallai eich bod am i fwy o denantiaid lenwi eich arolygon neu fwy o denantiaid i gymryd rhan mewn paneli a fforymau. Efallai eich bod yn ceisio sicrhau bod eich paneli llais tenantiaid yn adlewyrchu cyfran fwy o’ch tenantiaid.
Gadewch i ni siarad amdano fel cymuned dai. A yw ‘brandio’ yn helpu i sicrhau bod cymhellion yn gweithio? Beth ydych chi wedi rhoi cynnig arno?
Bydd TPAS Cymru yn rhannu rhai meddyliau a syniadau a bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu dulliau ac arferion gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol.
Dyma gyfle i siarad yn agored gyda chyfoedion ac archwilio beth sy’n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Ar gyfer pwy mae'r rhwydwaith yma? Mae'r sesiwn hon ar gyfer staff sy'n ymwneud ag ymgysylltu / cyfranogiad tenantiaid a chyfathrebu â thenantiaid.
Gallwch gofrestru i sicrhau eich lle am ddim trwy'r ddolen Zoom hon https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMoc--hpjoiGdVazLT8c0BSRMZMxnyHuKam
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid
Dyddiad
Dydd Iau
11
Mai
2023, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 10 Mai 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Eleanor Speer
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad