MAE'R SESIWN HON YN LLAWN
Dydd Mercher 23 Awst10.30 – 12pm
Rydym yn ychwanegu Rhwydwaith Tenantiaid ychwanegol ym mis Awst. Ymunwch â ni i glywed gan Mike Corrigan, Llywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi, ac yn gofyn cwestiynau i chi am rai o'u cynigion ar y pwnc pwysig hwn – Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru.
Mae’r Papur Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru yn rhoi diogelwch a lles preswylwyr wrth galon diwygiadau diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru. Mae’r diwygiadau hyn yn cwmpasu pob adeilad preswyl amlfeddiannaeth yng Nghymru.
Fel rhan o’u cynigion, byddent yn gosod gofynion ar y rhai sy’n gyfrifol am ddiogelwch adeilad yn ystod ei feddiannaeth i ymgysylltu â phreswylwyr mewn ffordd ragweithiol, ystyrlon a chydweithredol. Bydd hyn yn golygu gofynion i sicrhau bod preswylwyr yn cael gwybodaeth am ddiogelwch adeiladau a bydd ganddynt hefyd yr hawl i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch adeiladau ar gais. Bydd preswylwyr hefyd yn cael eu cefnogi i ddeall eu cyfrifoldebau eu hunain i gadw eu hadeilad yn ddiogel iddyn nhw eu hunain a'u cymdogion.
Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu polisi ar y cynigion hyn mae'n bwysig eu bod yn deall ac yn ystyried barn trigolion. Hoffent ymgynghori ag aelodau Rhwydwaith Tenantiaid TPAS Cymru i gael eu mewnwelediad ar rai o’n cynigion.
MAE'R SESIWN HON YN LLAWN
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Tenantiaid Arbennig mis Awst
Dyddiad
Dydd Mercher
23
Awst
2023, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 22 Awst 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad