Dydd Mawrth 29 Mawrth: 1.30 – 3pm
Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein Rhwydwaith Tenantiaid hynod boblogaidd. Yn ystod rhwydwaith mis Mawrth bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn ymuno â ni i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).
Byddant yn edrych ar rai cwestiynau cyffredin gan denantiaid:
-
Beth mae'r Ddeddf newydd yn ei olygu i denantiaid tai cymdeithasol?
-
Pryd fydd y Ddeddf newydd yn dechrau?
-
A fydd y Ddeddf newydd yn cynyddu fy rhent?
-
A fydd y Ddeddf newydd yn newid fy hawliau fel tenant?
-
A fydd yn rhaid i denantiaid arwyddo cytundeb newydd?
Mae niferoedd a all fynychu'r rhwydwaith hwn yn brin, felly i wneud yn siŵr eich bod yn cadw eich lle rydym yn awgrymu eich bod yn archebu cyn gynted â phosibl!
Mae'r sesiwn rhwydwaith hon hefyd yn gyfle delfrydol i gwrdd â thenantiaid eraill o bob rhan o Gymru a rhannu newyddion ac arfer da ynghylch cynnwys tenantiaid yn y materion/penderfyniadau mawr. Os ydych yn aelod rheolaidd o’n rhwydweithiau byddwn yn falch o’ch gweld eto, os ydych yn newydd i’n rhwydwaith bydd croeso mawr i chi.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i denantiaid sy'n dymuno mynychu.
Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwvcuypqzIuGdLQEoECDdP8vazXuEwMuN3l
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Tenantiaid Mawrth 2022
Dyddiad
Dydd Mawrth
29
Mawrth
2022, 01:30 - 03:00
Archebu Ar gael Tan
28 Mawrth 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad