Dydd Mawrth, 12 Medi 2023: 1.00pm – 2.30pm
Yn dilyn llwyddiant y Gynhadledd ‘Creu Cymunedau Gwych’ ym mis Gorffennaf, mae Rhwydwaith Tenantiaid mis Medi yn sesiwn rhannu stori meic agored!
Bydd y Rhwydwaith yn cael ei hwyluso gan Sam Evans, Cydymaith TPAS Cymru a fydd yn edrych ar weithgareddau cymunedol, prosiectau a digwyddiadau yr ydych yn ymwneud â nhw gyda’ch cymdogion ac eraill lle rydych yn byw. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn hon naill ai fel siaradwr neu wrandäwr.
Bydd gan bob person neu grŵp sy’n dymuno siarad hyd at 8 munud i rannu beth maen nhw’n ei wneud, sut maen nhw’n ei wneud, beth maen nhw wedi’i ddysgu a’r gwahaniaeth mae wedi’i wneud i bobl leol. Os oes gennych unrhyw ffotograffau neu sleidiau gallwn eich helpu i'w dangos. Bydd gwrandawyr yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau ar y diwedd hefyd.
-
Efallai eich bod yn rhedeg neu'n rhan o ardd gymunedol neu randir?
-
Efallai eich bod chi a'ch cymdogion yn cael sgwrs wythnosol/misol neu glwb crefft?
-
Efallai eich bod wedi trefnu digwyddiad neu weithgaredd cymunedol yn eich ardal?
-
Efallai eich bod yn rhan o grŵp cymunedol y gallwch ddweud wrth eraill amdano?
-
Oes gennych chi gynllun gwarchod cymdogaeth gwych yn mynd, neu ffordd arall o gadw golwg ar eich gilydd?
Mae’r rhwydwaith hwn yn ymwneud â rhannu’r holl bethau da y mae tenantiaid yn eu gwneud i’w gilydd a’u cymunedau – rydym yn gwybod bod llawer yn mynd ymlaen, felly dewch amdani!
Wrth gofrestru, gofynnir y 2 gwestiwn canlynol i chi:
-
'Fyddech chi'n hoffi bod yn siaradwr yn ystod y sesiwn hon'?
-
‘Os ydych chi eisiau siarad, pa brosiect, grŵp, digwyddiad neu weithgaredd y gallwch chi siarad amdano’?
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Tenantiaid - Medi
Dyddiad
Dydd Mawrth
12
Medi
2023, 13:00 - 14:30
Archebu Ar gael Tan
11 Medi 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad