Dydd Mawrth, 27 Ebrill: 10am – 12pm
Eisiau lleihau'r cwynion a gewch?
Mae'r cwrs rhyngweithiol byr hwn yn edrych ar 10 peth y gall landlordiaid eu gwneud i helpu i gadw tenantiaid / cwsmeriaid yn fodlon fel nad yw sefyllfaoedd yn gwaethygu: fel bod tenantiaid, landlord a'ch enw da yn elwa.
Bydd y cwrs yn edrych ar:
-
Cwynion - Cyfleoedd neu fygythiadau??
-
Beth sydd wir yn bwysig i denantiaid?
-
Cyfathrebu:-
-
Ei gadw’n blaen a syml
-
Cadw mewn cysylltiad
-
Dal eich dwylo i fyny…
-
Y gwersi a ddysgwyd…
Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer staff tai cymdeithasol sy’n delio’n uniongyrchol â thenantiaid neu yn ymwneud â delio â chwynion.
Cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth.
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Sut i leihau cwynion - yr hyn y mae eich tenantiaid eisiau GO IAWN...
Dyddiad
Dydd Mawrth
27
Ebrill
2021, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
12 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Helen Williams
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad