10 Tachwedd 2022, 10am-11:15am
Beth sydd angen i denantiaid ei wybod am gyllid Cymdeithasau Tai?
Mae hyn yn parhau â’n cyfres o ddigwyddiadau ar Rent - un o’r meysydd trafod mwyaf ym maes tai ar hyn o bryd a’r alwad am dryloywder gan denantiaid a’r cyfryngau.
Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â'r busnes o fod yn landlord cymdeithasol a'i ddad-ddrysu. Mae tenantiaid eisiau gwybod sut maen nhw'n codi arian, yn gwario, yn benthyca, a beth mae hynny i gyd yn ei olygu i Rent.
Rydyn ni wedi trefnu siaradwyr o Gartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Tai Unedig Cymru a Cartrefi Cymoedd Merthyr wrth i ni feddwl am gyllid Cymdeithasau Tai a mynd i’r afael â llawer o’r cwestiynau, mythau a heriau cyffredin a ofynnir gan denantiaid ynghylch fforddiadwyedd megis:
-
Sut ydych chi'n codi arian ac yn ei wario
-
Beth sy'n digwydd i wargedion landlordiaid bob blwyddyn?
-
A yw fy rhent yn mynd ar atgyweiriadau neu adeiladu cartrefi newydd?
-
Pam ydych chi'n adeiladu cartrefi newydd pan fo gwaith i'w wneud ar gartrefi presennol?
-
Beth yw cyfamodau bancio a pham eu bod mor bwysig?
-
Beth yw Manteision/Anfanteision codiadau rhent gwahanol?
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer tenantiaid, staff, aelodau bwrdd a'r rhai sy'n ymwneud â'r sector tai.
Cost (+TAW):
Tenantiaid – AM DDIM
Staff: £49+ TAW
Archebwch eich lle trwy'r ddolen Zoom hon: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZYtf-itqzMtGtcDf4_szloHv9z9FsPXPFSD
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at
[email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi