Pwrpas y Digwyddiad
Pwrpas y gweminar hwn yw lansio ein Pwls Tenantiaid diweddaraf, a oedd yn seiliedig ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, Papur Gwyrdd ar Rhenti Teg a Fforddiadwyedd Manteisiodd TPAS Cymru ar y cyfle i gydweithio ag elusen Llesiant Rhieni Sengl i gael mewnwelediad gan rentwyr preifat i ddeall eu heriau, eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer dyfodol rhentu’n breifat yng Nghymru ac archwilio barn rhentwyr preifat ar y pynciau a drafodir yn y Papur Gwyrdd.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar ddata gan rentwyr sy’n byw yn y Sector Rhentu Preifat (SRhP) ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Gyda’r diffyg sylweddol o ddata penodol i Gymru yn y SRhP, gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn cefnogi datblygiadau polisi pellach a bod diwygio tai yn barhaus yn cael ei wneud, er budd tenantiaid a landlordiaid.
Bydd y gweminar rhad ac am ddim hwn i aelodau TPAS Cymru yn rhoi trosolwg i chi o’r adroddiad a’i ganfyddiadau allweddol.
AMCAN
Mae hwn yn gyfle i ddysgu am wir bersbectif tenantiaid o fewn y sector preifat, trwy archwilio'r canfyddiadau ac ystyried beth mae'n ei olygu i chi.
PRYD: Dydd Llun 11 Medi 2023 AMSER: 12:00: 12:45 (45 munud)
TREFNLEN
-
12:00 – 12:30: Trosolwg cefndir a chyflwyniad o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad Tai Digonol a Rhenti Teg.
-
12:30 to 12:40: Cwestiynau
-
12:40 to 12:45: Gorffen
Gellir cofrestru am ddim yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAlcOugpzsrGt1LABRvDdl0XL65Hr7ELVhB
Noder:
-
Fel gyda'r mwyafrif o weminarau - bydd angen cysylltiad WiFi / band eang teilwng a seinyddion / clustffonau arnoch chi.
-
Mae’r gweminar rhad ac am ddim hwn ar gyfer sefydliadau sy’n aelodau o TPAS Cymru sy’n cynnwys staff a thenantiaid y landlord hwnnw. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod y rhai nad ydynt yn aelodau. Os oes gennych unrhyw amheuaeth - cysylltwch â TPAS Cymru