Wrth i landlordiaid cymdeithasol barhau i geisio cynnig a symud gwasanaethau tai ar-lein, pa wasanaethau a llwyfannau ar-lein sy’n gweithio’n dda?

Trawsnewid Gwasanaethau Digidol – sesiwn bord gron ar gyfer staff

Dydd Mercher, 9 Tachwedd: 9:30am – 11:00am

Wrth i landlordiaid cymdeithasol barhau i geisio cynnig a symud gwasanaethau tai ar-lein, pa wasanaethau a llwyfannau ar-lein sy’n gweithio’n dda? Beth sydd heb weithio? A pha wasanaethau y mae tenantiaid am gael mynediad iddynt ar-lein?

Mae cael eich gwasanaethau digidol/ar-lein yn gywir yn hanfodol i sicrhau bod eich gwasanaethau yn gynhwysol, yn hawdd eu defnyddio, yn effeithiol ac yn ddiogel.

Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn Bord Gron Trawsnewid Gwasanaethau Digidol cyntaf erioed i ganolbwyntio ar bwnc sy’n bwysicach nag erioed. Bydd y sesiwn ar-lein hon yn galluogi mynychwyr i rannu ymarfer a dysgu gan eraill. Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn canolbwyntio ar themâu allweddol, gan gynnwys:

  • Pa wasanaethau ar-lein sy'n boblogaidd gyda thenantiaid?
  • Pa lwyfannau sy'n gweithio'n dda?
  • Sut mae landlordiaid yn rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ar-lein a thrwy Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)?
  • Sut mae landlordiaid yn cynnwys tenantiaid wrth lunio a dylunio gwasanaethau digidol?
  • Ble mae landlordiaid yn canolbwyntio eu datblygiadau gwasanaethau ar-lein / digidol yn y dyfodol

Bydd cyfleoedd i rannu dulliau gweithredu ac ymarfer gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol a gofyn cwestiynau. Dyma gyfle i siarad yn agored gyda chyfoedion ac archwilio beth sy’n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i denantiaid.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? – mae’r sesiwn Ford Gron hon ar gyfer staff sy’n gyfrifol am feysydd cysylltiedig megis: gwasanaethau cwsmeriaid, TG, ymgysylltu â thenantiaid, rheoli tai, cwynion a gwella gwasanaethau.

Mae hon yn sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru.

 

Hwylusydd y Sesiwn – David Lloyd 

 

 
Archebwch eich lle drwy'r ddoeln Zoom yma: 

https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZIucuuhpjIrEtfhfW70ma4KaI3SaGZ7PeR7

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Trawsnewid Gwasanaethau Digidol – sesiwn bord gron ar gyfer staff

Dyddiad

Dydd Mercher 09 Tachwedd 2022, 10:00 - 11:30

Archebu Ar gael Tan

07 Tachwedd 2022

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X