Dydd Iau, 25 Ionawr: 10:30am – 12:30pm
Yn yr uwchgynhadledd yma, byddwch yn clywed gan ein siaradwyr am:
-
Rôl ymddiriedaeth a pham ei fod yn bwysig.
-
Deall canlyniadau diffyg ymddiriedae
-
Enghreifftiau a strategaethau allweddol i ddatblygu ymddiriedaeth.
Pam mynychu'r uwchgynhadledd yma?
Gydag agenda Sero Net Llywodraeth Cymru a’r angen i ôl-osod cartrefi tenantiaid i sicrhau eu bod yn defnyddio ynni’n effeithlon; mae angen inni weithio i gynyddu’r hyder sydd gan denantiaid yn eu landlordiaid i sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Rhaid i denantiaid deimlo y gallant ymddiried yn eu landlordiaid, oherwydd heb ymddiriedaeth, nid oes gennych unrhyw fusnes.
Pan fyddwn yn meddwl am denantiaid a’r disgwyliad sydd gennym arnynt i gyfathrebu gwybodaeth â ni, i ofyn am gymorth, i’n gadael i mewn i’w cartrefi, i ôl-ffitio eu heiddo, (mae pob un ohonynt yn bethau y maent yn eu gwerthfawrogi), mae ymddiriedaeth yn gwbl ganolog i galluogi ymgysylltu effeithiol â thenantiaid.
Pam arall?
Bob blwyddyn, disgwylir i landlordiaid rannu arolwg STAR Llywodraeth Cymru. O fewn y cwestiynau, gofynnir i denantiaid:
-
I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol – “Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol”?
Bydd rhoi'r hyn a ddysgwyd o'r hyfforddiant hwn ar waith yn helpu i wella boddhad tenantiaid yn y maes hwn.
Dechreuwch y flwyddyn newydd gydag ymddiriedaeth ar flaen y gad yn eich cynllunio a chofrestrwch ar gyfer ein uwchgynhadledd ar-lein yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUpf-uhqjstG9WVVYDnODIVchX6fMo9DdWo
Cost fesul person:
-
Tenants: £29+TAW
-
Staff (Members): £59+TAW
-
Non-Members: £89+TAW
Siaradwyr:
Cadeirydd: Elizabeth Taylor: Arweinydd Polisi TPAS Cymru
Mae gan Elizabeth gefndir mewn Seicoleg. Cwblhaodd ddwy radd mewn Seicoleg, gan ennill y graddau uchaf yn ei phrifysgol. Mae hi wedi gweithio fel Seicolegydd Clinigol cynorthwyol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn ymchwilio i’r ymchwil o amgylch Seicoleg ymddiriedaeth a bregusrwydd a sut y gall hyn wella perthnasoedd.
Gwen Thirsk: Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
Mae Gwen wedi bod yn gweithio ym maes datblygiad ieuenctid a chymunedol ers 20+ mlynedd.
Mae ei rolau wedi cynnwys Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf, Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid a gweithio fel hwylusydd llawrydd, ymchwilydd, hyfforddwr, a datblygwr prosiect. Mae hi hefyd wedi gweithio i Achub y Plant, gan weithio fel hyfforddwr a chydlynydd ar raglen grymuso rhieni FAST, ac fel swyddog rhaglen ar brosiect eiriolaeth ac ymgyrchoedd ieuenctid.
Am yr 8 mlynedd diwethaf mae hi wedi bod yn gweithio ar raglen datblygu cymunedol seiliedig ar asedau (Buddsoddi Lleol) ar gyfer Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, gan gefnogi 3 chymuned yng Ngogledd Cymru. Ariennir Buddsoddi’n Lleol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhaglen 13 mlynedd gyda £1 miliwn o bunnoedd i bob un o’r 13 cymuned dan sylw i’w wario mewn ffyrdd i wella lle maent yn byw..
Anna Humphrey: Dwr Cymru – Welsh Water
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwen Thirsk: Building Communities Trust
Gwen’s been working in the field of youth and community development for the last 20+ years.
Her roles have included Communities First Co-ordinator, Youth Participation Officer and working as a freelance facilitator, researcher, trainer, and project developer. She has also worked for Save the Children, working as a trainer and co-ordinator on the FAST parent empowerment programme, and as programme officer on a youth advocacy and campaigns project.
For the last 8 years she has been working on an asset-based community development programme (Invest Local) for Building Communities Trust (BCT), supporting 3 communities in North Wales. Invest Local is funded by the National Lottery Community Fund and is a 13-year programme with £1 million pounds for each of the 13 communities involved to spend in ways to improve where they live.
Anna Humphrey: Dwr Cymru – Welsh Water
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Uwchgynhadledd Datblygu Ymddiriedaeth gyda Thenantiaid
Dyddiad
Dydd Iau
25
Ionawr
2024, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 24 Ionawr 2024
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Elizabeth Taylor
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad