Dydd Gwener, 23 Ebrill: 10.00 – 11.30
Sesiwn AM DDIM gyda Ella Smillie – Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Benthyg Cymru - Borrow Don't Buy (http://www.benthyg.org) Llyfrgell Pethau gyntaf Cymru (a'r unig un hyd yn hyn). Bydd Ella yn adrodd hanes Benthyg yng Nghaerdydd, yn ateb eich cwestiynau am sut mae'n gweithio, ac yn ein diweddaru ar gynlluniau ar gyfer rhagor o’r gwasanaethau hanfodol yma yng Nghymru.
Mae Llyfrgell Pethau yn cadw’r eitemau hynny fel driliau pŵer, pebyll, offerynnau cerdd, peiriannau torri lawnt ac ati y gall pobl fenthyg am brisiau isel yn ôl yr angen. Mae hyn yn cefnogi lleihau tlodi ac yn ei dro yn lleihau gwastraff ac yn cyfrannu at economi fwy cylchol.
Mae Benthyg wedi dechrau'r chwyldro yng Nghymru a dyma'ch cyfle i ddysgu mwy a thrafod gyda'r cyd-sylfaenydd. Rydyn ni am i chi gael eich ysbrydoli i weithredu yn eich cymuned. Mae'r math hwn o wasanaeth cymunedol yn weithredol ledled y byd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae'r sesiwn hon yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac unrhyw sefydliadau cymunedol y mae ein haelodau'n eu cefnogi'n uniongyrchol.
Agenda
-
Agoriad a chroeso gan hwylusydd TPAS Cymru, David Wilton – 5munud
-
Ella yn cyflwyno'r llyfrgell o bethau, stori anhygoel Benthyg.org a’r hyn sydd ar y gweill nesaf i Gymru - 15munud
-
Sesiwn Cwestiynau Cyffredin rhyngweithiol lle byddwch chi'n cael gofyn y cwestiynau - 20-25munud
-
Sylwadau i gloi / camau nesaf gan yr hwylusydd - 5munud
Cofrestrwch trwy ddefnyddio'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZclfu2rqTwoGdGbOEFl9WJB0XxGh0Vj1J2S
Noddir ein Hwythnos Datgarboneiddio gan
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Wythnos Datgarboneiddio: Pam bod angen ‘Llyfrgell Pethau’ yn eich ardal chi. Arbed arian ac arbed y blaned. Popeth sydd ei angen i chi weithredu
Dyddiad
Dydd Gwener
23
Ebrill
2021, 10:00 - 11:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 22 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad