Dydd Llun19 Ebrill: 11:00 - 12:30
Yn y digwyddiad agoriadol blaenllaw hwn o'n hwythnos ar thema Datgarboneiddio, bydd Grŵp Arup a Thai Cymunedol Cymru yn nodi'r achos pam mae tai yn allweddol i ddatgarboneiddio Cymru. Mae'r heriau'n fawr, ond mae'r gwobrau hefyd. Mae hyn yn fwy na dim ond inswleiddio a rhimyn drafft, mae'n newid i archwilio ac ailfeddwl sut olwg fydd ar ein cymunedau wrth symud ymlaen.
Byddwn yn ymchwilio i'r materion allweddol sy'n ymwneud â'r agenda datgarboneiddio ac yn edrych ar sut mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at y newidiadau hyn. Bydd cyfle i gael cwestiynau a thrafodaeth gyda'r panel.
Mae hwn ar gyfer pawb ym maes Tai - tenantiaid a phobl sy'n gweithio ym maes tai. Byddwn yn ceisio cadw jargon mor isel â phosibl ac archwilio beth yw'r her a beth mae'n ei olygu i chi.
Mae Datgarboneiddio yn enfawr i dai, ein cymunedau ac i Gymru gyfan, nid yw hon yn sesiwn i'w cholli
Siaradwyr Gwadd:
1. Chris Jofel – Grŵp Arup
2. Bethan Proctor – Tai Cymunedol Cymru
Cost: Am ddim i denantiaid, £29 i staff a £89 i bawb arall
Cofrestrwch trwy ddefnyddio'r dolen zoom yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_DKbRaTKRSXmHZgrGEqkbSw
Noddir ein Hwythnos Datgarboneiddio gan
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Wythnos Datgarboneiddio: Sut y gall tai arwain Cymru i fyd carbon is
Dyddiad
Dydd Llun
19
Ebrill
2021, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 18 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad