Dydd Mercher, 21 Ebrill: 10:30 - 12:30
I denantiaid a staff tai, mae'n debyg mai hwn fydd y mater tai mwyaf ar gyfer y degawdau nesaf. Amser i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn.
Ystyriaeth allweddol i unrhyw denant yw cost eu biliau ynni. Ystyriaeth allweddol i gymdeithas yw sut i leihau'r defnydd o ynni a defnyddio ffynonellau ynni mwy cynaliadwy.
Nid yw adeiladu eco-gartrefi newydd yn ddigonol, mae angen i ni fynd i'r afael â'r cannoedd o filoedd o gartrefi presennol yng Nghymru a sut rydym yn lleihau'r defnydd o ynni ar draws cartrefi presennol. ‘Ôl-ffitio’ yw’r term a ddefnyddir ac mae’n un o’r heriau datgarboneiddio mwyaf sy’n wynebu Cymru.
Ar gyfer y weminar amserol yma, rydym wedi trefnu pedwar siaradwr craff ac ysbrydoledig a fydd yn trafod nid yn unig yr heriau, ond yr hyn y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â her ôl-ffitio. Bydd cyfle hefyd am sesiwn Holi ac Ateb gyda'r siaradwyr.
Siaradwyr Gwadd:
-
Martin Ford - Aelod Bwrdd TPAS Cymru a Pennaeth Trawsnewid Atgyweirio, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
-
Solitaire Pritchard – Pennaeth Adfywio Lleoedd, Grŵp Pobl
-
Gareth Williams – Cyngor Sir Gâr
-
Lisa Holt – Prifysgol Abertawe
Cost: £29 i denantiaid, £49 i staff a £89 i bawb arall
Cofrestrwch trwy ddefnyddio'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_riR9M1ktTROGyM_b4f2HMQ
Noddir ein Hwythnos Datgarboneiddio gan
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Wythnos Datgarboneiddio: Y cyfan sydd angen i chi wybod am ôl-ffitio a sut y bydd o fudd i ni gyd
Dyddiad
Dydd Mercher
21
Ebrill
2021, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 20 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad