19th October 2022, 5:30-6:30pm
Ydych chi'n byw yn y sector rhentu preifat (SRhP)?
O 1 Rhagfyr, 2022, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn gwneud rhentu cartref yng Nghymru yn gliriach. Ymhlith y newidiadau, bydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i rentwyr (a elwir yn ‘ddeiliaid contract’ o dan y Ddeddf). Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn landlordiaid a thenantiaid ar newid arfaethedig i’r cyfnod hysbysiad adennill meddiant sy’n gymwys os nad yw deiliad contract ar fai.
Ar gyfer contractau safonol cyfnodol newydd y cytunwyd arnynt ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, rhaid i landlordiaid roi o leiaf chwe mis o rybudd i ddod â’r contract i ben os nad yw’r deiliad cyswllt ar fai. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, bydd tenantiaethau byrddaliad sicr cyfnodol presennol sy’n trosi i gontractau safonol cyfnodol ar 1 Rhagfyr yn destun cyfnod rhybudd dim bai o ddau fis yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar:
-
a ddylai’r cyfnod rhybudd newydd o chwe mis ar gyfer hysbysiad adennill meddiant dim bai fod yn gymwys hefyd i gontractau meddiannaeth safonol wedi’i drosi ac, os felly;
-
pryd y dylai'r cynnydd arfaethedig hwn yn y cyfnod rhybudd ddod i rym.
Mae TPAS Cymru yn trefnu digwyddiad ymgynghori ar gyfer tenantiaid rhentu preifat ar ran Llywodraeth Cymru, a fydd yn hwyluso’r sesiwn.
Dyma eich cyfle i glywed yn uniongyrchol gan y Llywodraeth i ddeall beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn. Cynhelir y sesiwn ar 19 Hydref, 5:30 - 6:30pm
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAqceuhqz8qH9Vv5gdOuFPcdLn8r8X7FcNH
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgynghoriad SRhP Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).
Dyddiad
Dydd Mercher
19
Hydref
2022, 17:30 - 18:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 19 Hydref 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Ymgysylltu â'r gymuned
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Eleanor Speer
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad