11 Hydref 2022, 10am-12pm
Gosod Rhent ac ymgynghori â thenantiaid yw un o'r pynciau poethaf ar hyn o bryd. Fel sector y mae angen i ni fod yn well felly peidiwch â cholli allan ar y gweminar hanfodol newydd hon i ddysgu o 3 astudiaeth achos unigryw o'r Alban a Chymru am sut i sicrhau fod ymgynghoriadau rhent yn gweithio.
Angen mwy?
I denantiaid mae'r argyfwng costau byw yn enfawr. Mae tenantiaid yn wynebu biliau ynni andwyol ac o bosib, codiadau rhent sylweddol. Mae fforddiadwyedd rhent yn mynd i gael ei graffu’n sylweddol.
Dros y degawd diwethaf, roedd cysylltiad llym rhwng polisi bennu rhent Llywodraethol Cymru a chwyddiant (CPI). Yn gyffredinol, cododd rhenti yn uwch na chwyddiant ac felly hefyd safonau. Mae'r model hwnnw bellach yn edrych yn bryderus i denantiaid. Rydym bellach mewn cyfnod o chwyddiant uchel a allai fod ar frig 10% – a allai olygu codiadau rhent syfrdanol i denantiaid. Rydym eisoes yn clywed sibrydion am godiadau o fwy na 6% yn cael eu cynnig.
Mae angen ymgysylltu’n dda â thenantiaid ac o dan ‘Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth’ presennol Llywodraeth Cymru (LlC) mae disgwyliad clir ar landlordiaid cymdeithasol ynghylch ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â thenantiaid. Yn wir, mae'r Ffurflen Monitro Hunan-Ardystio Blynyddol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan landlordiaid yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddangos ac amlinellu “y ffordd yr oedd tenantiaid yn cael eu cynnwys (ymgysylltu, ymgynghori ac adborth) a sut mae'r adborth a gafwyd wedi dylanwadu ar eich polisi pennu rhenti.”
O ystyried maint posibl y codiadau rhent, mae tenantiaid yn haeddu gwell o ran ymgynghori. Mae TPAS Cymru wedi cael nifer o landlordiaid i gysylltu â ni ynglŷn â’r pwnc hwn, ac felly rydym wedi trefnu’r sesiwn hon i drafod ymagweddau at ymgynghoriadau rhent ac arfer gorau.
Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn clywed gan 3 astudiaeth achos gwych o Gymru a’r Alban. Mae siaradwyr yn cynnwys:
-
River Clyde Homes (Yr Alban)
-
Cyngor Sir Caerffili
-
Cartrefi Cymoedd Merthyr
Gallai pob un ohonom elwa o glywed astudiaethau achos da. Fodd bynnag, nid astudiaethau achos yn unig fydd y sesiwn hon, byddwn wedyn yn newid i fformat trafodaeth a rhwydweithio i rannu profiadau a syniadau. Byddwch yn gadael y sesiwn hon wedi'ch ysbrydoli ac yn barod i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn yn eich sefydliad.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i glywed am rai o'r arferion gwych sy'n ymwneud ag ymgynghori ar rent a'r cyfle i rwydweithio ag eraill a drafftio syniadau ar sut y gallech chi fynd i'r afael â hyn yn eich sefydliad.
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff, aelodau bwrdd a thenantiaid ymroddedig.
Cost (+taw):
Tenantiaid – Am ddim
Staff (Aelodau) – £59 + taw
Aelodau bwrdd – £59 + taw
Pawb Arall - £119 + taw
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZcudOGorz8jG9Lc1d9RfBkdQonhel6vnygf
Noder – ar ôl i chi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam/sothach. Mae'r e-bost gyda'r ddolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgynghoriadau Rhent – dysgu gan eraill
Dyddiad
Dydd Mawrth
11
Hydref
2022, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
10 Hydref 2022
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad