Dydd Mawrth 29 Tachwedd 10.30 -12.30pm
Mae pedair gwlad Prydain wedi dod at ei gilydd i gyflwyno’r gweithdy ar-lein cyffrous rhad ac am ddim hwn i aelodau sy’n archwilio arfer gwych ar gyfer ymgysylltu â chymunedau gwledig
.jpg)
‘Cysylltu’n Well’ Clywch gan Aidan Kearney, Uwch Swyddog Hyfforddiant, Supporting Communities - Gogledd Iwerddon a fydd yn edrych ar yr heriau a’r rhwystrau i ymgysylltu ymhlith trigolion gwledig Gogledd Iwerddon, yn enwedig drwy gydol y cyfnod cloi. Bydd y cyflwyniad yn amlygu arfer da trwy enghreifftiau ac astudiaethau achos ac yn archwilio’r dulliau y mae gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr wedi’u defnyddio i gyflawni mwy o ymgysylltu, cysylltedd a chyfathrebu.
Heriau byw mewn ardal wledig - Louise McNeilage, Hwylusydd Tenantiaid a Chymunedol, Cymdeithas Tai Scottish Borders a Dolina Morrison, TPAS yr Alban. Mae Louise yn gweithio ar ffiniau’r Alban lle nad oes llawer o ddinasoedd ac mae llawer o’r ardaloedd yn wledig – bydd Louise yn siarad am yr heriau y mae tenantiaid gwledig y gymdeithas dai yn eu hwynebu. Mae Dolina yn weithiwr TPAS yr Alban ac yn Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid gyda Phartneriaeth Tai Hebridean, mae hi hefyd yn denant Phartneriaeth Tai Hebridean a bydd yn siarad am yr heriau o fyw a gweithio ar Ynysoedd yr Alban.
Bydd David Wilton Prif Weithredwr TPAS Cymru yn rhannu ei feddyliau a’i wybodaeth am ddefnyddio datrysiadau digidol a chyfryngau cymdeithasol fel ffyrdd o ymgysylltu â thenantiaid, preswylwyr a chymunedau. Beth yw manteision, heriau a chyfleoedd defnyddio dulliau ar-lein ar gyfer cyfathrebu â chymunedau gwledig? A all dull hybrid fod yn ddyfodol ar gyfer ymgysylltu â chefn gwlad?
Trafodaeth gyffredinol wedi'i hwyluso gan Louise Holt Pennaeth Gwasanaethau Busnes, TPAS Lloegr: Pa arfer da y gall cynrychiolwyr ei rannu? Sut gallwch chi ddefnyddio'r hyn rydych chi wedi'i glywed y bore yma?
I archebu eich lle cliciwch ar y ddolen hon https://www.tpas.org.uk/tpas-events/show/757
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgysylltu â chymunedau gwledig: awgrymiadau, offer, a thechnegau
Dyddiad
Dydd Mawrth
29
Tachwedd
2022, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
28 Tachwedd 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad