Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023: 10am – 12pm
Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn her wirioneddol i lawer o landlordiaid cymdeithasol ond mae clywed barn, pryderon a chwestiynau gan denantiaid iau yn hollbwysig.
Felly, unwaith eto mae TPAS, TPAS yr Alban, TPAS Cymru a Supporting Communities Gogledd Iwerddon, wedi dod at ei gilydd i gyflwyno’r gweithdy ar-lein cyffrous, addysgiadol a rhyngweithiol hwn sy’n rhannu arfer da o’r pedair gwlad.
Llunio Cartrefi Yfory: Pam mae ymgysylltu â phobl ifanc yn allweddol i arwain newid - Mae’r sesiwn ysbrydoledig hon sy’n procio’r meddwl yn archwilio sut mae Bolton at Home yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r elusen anhygoel RECLAIM, wedi cyflwyno rhaglen ymgysylltu ar gyfer trigolion ifanc, gan eu galluogi i lunio eu polisïau a’u gwasanaethau, a’u dwyn i gyfrif. Byddant yn rhannu gyda chi sut y gwnaethant sefydlu “panel craffu ieuenctid”, yr effaith a gafodd, a sut y rhoddodd le i drigolion ifanc dosbarth gweithiol leisio eu pryderon, a mynd i’r afael â rhai o’r heriau tai a wynebwyd ganddynt hwy a’u cymunedau.
Clywch gan Ogledd Iwerddon am yr heriau y mae landlordiaid yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â phobl ifanc a’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag ymgysylltu â’u landlordiaid. Clywch am rai enghreifftiau o arfer da o'r dulliau a ddefnyddiwyd a'r cysylltiad rhwng cynyddu cyfranogiad a gwell gwasanaethau tai.
Bydd James Begley, Rheolwr Gwaith Ieuenctid o Fforwm Ieuenctid Gogledd Iwerddon yn siarad am eu rôl a'u recriwtio o bobl ifanc, brwdfrydig a phenderfynol sy'n ysgogi newid yng Ngogledd Iwerddon mewn amrywiol ffyrdd ac amrywiol lwyfannau. Bydd hefyd yn trafod yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar gymunedau yma a’r cysylltiad pwysig rhwng eu gwaith a landlordiaid cymdeithasol.
Gadewch i ni garu ein cymuned
Dewch gyda Jonathan Giddings Reid o Gymdeithas Tai Elderpark yn Govan, Glasgow i ymchwilio i Brosiect Hyrwyddwyr Llais Cymunedol Iau.
Clywch am un o’r ffyrdd y mae’r gymdeithas dai leol hon yn ymgysylltu â lleisiau ifanc ac yn archwilio:
-
Beth? Pam? Sut?
-
Gwersi a ddysgwyd
-
Beth nesaf?
Mae'r bobl ifanc hyn yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac ar ei chyfer.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn – unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed enghreifftiau o arfer da o sut i gynnwys pobl ifanc mewn tai cymdeithasol.
Cost
Rhad ac am ddim i aelodau
Pethau i'w gwybod:
-
Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Cofrestrwch trwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwudO-hrT4pG9b6VTOjaxMt6g2KmiOcYJJU
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgysylltu â phobl ifanc mewn tai cymdeithasol – datgloi’r potensial
Dyddiad
Dydd Mawrth
05
Rhagfyr
2023, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
04 Rhagfyr 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad