Dydd Mercher, 25 Awst: 10.30am – 12noon
A ydych erioed wedi cwblhau arolwg ac wedi teimlo ei fod yn ddiflas neu'n wastraff amser? Gydag ychydig o ymdrech, gallwn wella effeithiolrwydd ein harolygon fel eu bod yn fwy deniadol, mwy o bobl yn cymryd rhan, ac yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnom i weithredu.
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hyfforddi ar-lein newydd sbon hon lle byddwn yn darparu'r offer sydd eu hangen ar bobl i greu arolygon perthnasol a deniadol a sicrhau y gall tenantiaid fynegi eu hunain yn llawn a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed..
Bydd y sesiwn hon ar ffurf gweithdy rhyngweithiol cyflym lle anogir trafodaeth. Byddwn yn mynd i’r afael â’r manylion o gynllunio arolygon bodlonrwydd deniadol o'r dechrau i'r diwedd. Trwy gydol y sesiwn byddwn yn edrych i mewn i bethau fel mathau o gwestiynau, camgymeriadau cyffredin, awgrymiadau, a thechnegau arloesol i wneud eich arolygon y gorau y gallant fod.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag ysgrifennu neu ddosbarthu arolygon, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn mesur bodlonrwydd tenantiaid.
Cost:
£39 aelodau / £79 pawb arall
I archebu eich lle, defnyddiwch y ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMrd-qhqzkuGtNzxEDiw1Gd8MGGzwGF-2M0
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ysgrifennu Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Deniadol
Dyddiad
Dydd Mercher
25
Awst
2021, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 24 Awst 2021
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Ryan Newton
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad