Mae ein pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar un o'r materion mwyaf ym maes Tai ar hyn o bryd, sef ymgynghoriad rhent a gosod rhent. Rydym yn falch o allu cyhoeddi ein hadroddiad i'r cyhoedd gyda'n mewnwelediadau.

Ein Pwls Tenantiaid pwysicaf eto. Ein Hadroddiad ar yr Ymgynghoriad Gosod Rhenti.

Mae ein pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar un o'r materion mwyaf ym maes Tai ar hyn o bryd, sef ymgynghoriad rhent a gosod rhent. Rydym yn falch o allu cyhoeddi ein hadroddiad i'r cyhoedd gyda'n mewnwelediadau.

Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae ein Harolwg Ymgynghori Gosod Rhenti yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac o ystod eang o gefndiroedd.

Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a’u rhent ar yr adeg hollbwysig hon wrth i ni gerdded drwy’r argyfwng costau byw fel cymdeithas.

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid  cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a Thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â’n Pwls Tenantiaid a chael dweud eich dweud? 

Enw’r adroddiad: Arolwg Ymgynghoriad Gosod Rhenti TPAS Cymru.

Dyma’r ddolen i’r adroddiad llawn  

Awduron: Eleanor Speer a David Wilton

Dyma ddolen i'r sleidiau a ddefnyddiwyd yn y sesiwn ôl-drafodaeth ar 17 Hydref 2022

Mae recordiad fideo o’r sesiwn ôl-drafodaeth hefyd ar gael yma:

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan