O fis Ionawr 2022, mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn newid yn dilyn adolygiad diweddar o’r ‘Fframwaith Rheoleiddiol’ gan gynnwys cyflwyno set newydd o ‘Safonau Rheoleiddiol’ y bydd angen i Gymdeithasau Tai eu bodloni

Newidiadau i Reoleiddio: diogelu tenantiaid a buddsoddiad mewn cymdeithasau tai yng Nghymru

Mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn newid yn dilyn adolygiad diweddar o’r ‘Fframwaith Rheoleiddiol’. O fis Ionawr 2022 mae’r newidiadau’n cynnwys cyflwyno set newydd o ‘Safonau Rheoleiddiol’ y bydd angen i Gymdeithasau Tai eu bodloni..

Mae’r ‘Safonau Rheoleiddio’ newydd hyn hefyd yn cynnwys safonau clir ynghylch Ymgysylltu â Thenantiaid a’r hyn a ddisgwylir gan Gymdeithasau Tai o ran clywed llais y tenantiaid.

Diben rheoleiddio cymdeithasau tai yw diogelu tenantiaid a buddsoddiad mewn cymdeithasau tai. Llywodraeth Cymru sy’n ymgymryd ag ef, ac mae ar ffurf arolygu a monitro i raddau helaeth gydag ymyrraeth dim ond pan fo angen.

Wrth gydnabod ymreolaeth ac annibyniaeth byrddau cymdeithasau tai, mae rheoleiddio effeithiol yn sicrhau bod pob cymdeithas dai yn:

  • Darparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel - darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau amrywiol pobl, gyda phwyslais ar wasanaethau o ansawdd uchel a gwelliant parhaus.
  • Wedi’i llywodraethu’n dda – yn cael ei harwain yn effeithiol ac wedi’i rheoli’n dda gan fyrddau, swyddogion gweithredol a staff, a gweithio gyda thenantiaid a phartneriaid i wneud penderfyniadau busnes effeithiol a’u rhoi ar waith.
  • Yn hyfyw yn ariannol – gyda chyllid wedi’i reoli’n dda, a’r adnoddau a’r llif arian i fodloni ymrwymiadau busnes presennol ac yn y dyfodol. Mae'r Safonau Rheoleiddio yn nodi'n fanylach y canlyniadau a ddisgwylir.

Mae’r ffordd y caiff cymdeithasau tai eu rheoleiddio wedi’i nodi yn y Fframwaith Rheoleiddio diwygiedig (2021) a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2022.

Mae’r fframwaith hefyd yn manylu ar yr ystod o ‘Safonau Rheoleiddiol’ y mae angen i gymdeithasau tai ddangos eu bod yn eu bodloni. Mae'r safonau hyn i'w gweld yn Atodiad 3 o'r ddogfen Fframwaith

Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol hwn yn berthnasol i gymdeithasau tai sydd wedi’u cofrestru a’u rheoleiddio gan Weinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996.

Mae rhestr o sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu tai cymdeithasol ar gael yma