Our 2024 Net Zero Tenant Pulse is focused on energy efficiency, affordable warmth and and attitudes to Net Zero.

 

Pwls Tenantiaid Cymru Gyfan: 4ydd Arolwg Blynyddol ar Sero Net ac Effeithlonrwydd Ynni

Mae ein Pwls Tenant Sero Net 2024 yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni, cynhesrwydd fforddiadwy ac agweddau tuag at Sero Net .

Dyma ein pedwaredd flwyddyn o gynnal ein harolwg Sero Net. Fel bob amser, rydym yn awyddus i rannu’r newidiadau ledled Cymru oherwydd costau byw, codiadau rhent ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Sero Net 2050.

Ein harolwg yn 2024 sydd wedi cael yr ymateb mwyaf ar y pwnc hwn hyd yma, gan ragori ar 750 o ymatebion sy’n rhannu manylion cyfoethog i leisiau a chanfyddiadau tenantiaid. Rydym yn falch iawn o rannu llais y tenant o amrywiaeth o gefndiroedd, a gobeithiwn barhau â’r twf hwn yn 2025.

Credwn fod y canfyddiadau a’r argymhellion yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i’r sector, gan daflu goleuni ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu profi a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a Sero Net.

Enw'r Adroddiad: Pwls Tenantiaid 2024 TPAS Cymru ar Effeithlonrwydd Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy

Gweler yr adroddiad llawn yma

Gweler y grynodeb weithredol yma

Awdur:                  Akshita Lakhiwal
Cefnogwyd gan:   David Wilton
Hyrwyddwyd gan: Eleanor Speer
 

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddynt ar hyn o bryd. Cafodd ei greu gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg yn chwarterol ar faterion cyfoes ac mae’n helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae Pwls Tenantiaid yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (cymdeithasau tai a thai cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat gan gynnwys myfyrwyr a’r rheini mewn tai â chymorth.

 

Os ydych chi'n denant, pam na wnewch chi ymuno â'n basdata PwlsTenantiaid i gael dweud eich dweud? 

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich ymroddiad i leisio eich barn.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan 

Ymholiadau'r cyfryngau: Mae gennym ddeunydd ar gyfer y cyfryngau ynghyd â llefarwyr yn Gymraeg a Saesneg. Cysylltwch [email protected]

Tryloywder gwobr raffl 

Fel diolch am gwblhau'r arolwg, gall tenantiaid ddewis cymryd rhan mewn raffl. Cesglir y data hwn ar wahân i'r arolwg dienw.

Yr enillwyr ar gyfer y Pwls hwn yw:

  1. Chris – tenant Grwp Cynefin 
  2. Margaret – tenant Cyngor Sir Caerffili
  3. Tenant breifat o Aberteifi

Derbyniodd pob un focs o gynnyrch Cymreig ffres gan https://www.daffodilfoods.co.uk/

Maent wedi cael eu hysbysu a'u gwobrau wedi'i hanfon atynt.