Swydd Newydd: Swyddog Ymgysylltu
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â TPAS Cymru ac i wneud gwahaniaeth mewn tai cymdeithasol yng Nghymru.
Am dros 30 mlynedd, mae TPAS Cymru wedi gwneud gwaith gwych ledled Cymru wrth ddatblygu cyfranogiad tenantiaid effeithiol trwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.
Mae'r pandemig wedi golygu newidiadau ledled Cymru i sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu ac felly sut mae cymunedau'n ymgysylltu ac yn cefnogi ei gilydd. Mae atebion digidol newydd cyffrous yn dod i'r amlwg i ddarparu ymgysylltiad a chyngor effeithiol. Fel sefydliad, rydym yn arwain ffyrdd newydd o feddwl a rhannu arfer gorau i helpu tenantiaid, landlord a chymunedau i addasu.
Y rôl rydyn ni'n edrych i'w llenwi yw:
Lleoliad: Ein swyddfa yng Nghaerdydd, fodd bynnag rydym yn gweithio o gartref ar hyn o bryd oherwydd y Pandemig. Unwaith y bydd y cyfyngiadau'n llacio, byddwn yn adolygu ein trefniadau gweithio tymor hir.
Math o gytundeb: Parhaol.
Oriau: 21 awr yr wythnos (gweler y nodiadau am opsynau gweithio’n hyblyg yn y Swydd Ddisgrifiad).
Cyflog: £18,500 yn seiliedig ar 21 awr. (£30,834 Cyfwerth ag amser llawn)
Buddiannau yn cynnwys: Cyfraniad pensiwn o 5%. Lwfans gwyliau hael
Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac maent wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, dydd Gwener 3 Rhagfyr
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021
Diddordeb? Yn gyntaf, darllenwch y swydd ddisgrifiad uchod, ac yna edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy am bwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei gredu.
Edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol a sianel YouTube am wybodaeth am ein gwaith
Barod i ymgeisio?
Os oes gennych gwestiynau neu'n dymuno trafod y rôl yn fwy manwl, anfonwch e-bost atom [email protected]
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.