5 Gorffennaf 2023 – Gwesty Leonardo Caerdydd (Jury’s Inn gynt)
10am – 3.30pm. Darperir lluniaeth a chinio bwffe
Yn dilyn llwyddiant cynhadledd undydd y llynedd, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein rhaglen wych ar gyfer digwyddiad Creu Cymunedau Gwych eleni sy’n addas ar gyfer gwirfoddolwyr a staff.
Beth ydyw? Bydd y gynhadledd hanfodol hon yn edrych ar esiamplau o arferion gorau cyfredol mewn ymagweddau i ‘Greu Cymunedau Gwych’. Bydd y digwyddiad yn ysgogi, ysbrydoli a hysbysu pawb sy'n mynychu.
Pwy ddylai fynychu? Mae’r digwyddiad hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddolwyr cymunedol, asiantaethau statudol, elusennau, a grwpiau gwirfoddol felly archebwch le nawr
Pam y dylwn i fynychu? Bydd yr amserlen orlawn yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol go iawn gan ystod o brosiectau a mentrau cymunedol (gweler ein rhaglen manwl yn y ddolen isod). Ymunnwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn tai yng Nghymru, datblygu cymunedol, llais ac ymgysylltiad y tenant neu mewn dyfodol tai yng Nghymru.
Uchafbwyntiau yn cynnwys:
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, gyda ffocws mawr ar roi llawer o syniadau i chi fynd gyda chi a'r amser a'r gofod i gwrdd ag eraill.
Noder:
Mae lleoedd yn brin i'n galluogi i gynnig cynllun ystafell arddull cabaret i helpu gyda'ch cysur a chyfleoedd rhwydweithio.
Mae gennym *ddisgownt pellter yn berthnasol i archebion y sefydliadau sydd wedi eu lleoli 50 milltir neu fwy i ffwrdd o’r lleoliad
Am fanylion opsiynau archebu ac i archebu eich lle, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu hon*.
*byddwn yn cynnal ein Seremoni Gwobrau Arfer Da Blynyddol gyda'r nos ac felly mae opsiwn arbed ar y ffurflen archebu i'r rhai sy'n dymuno mynychu'r ddau ddigwyddiad. Mwy o fanylion am ein Gwobrau yma
Telerau ac Amodau Canslo
-
Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW
-
Nid yw’r opsiynau yn cynnwys llety dros nos. Os ydych eisiau aros yn y gwesty, bydd angen i chi archebu hyn yn uniongyrchol â’r gwesty drwy ffonio 0292 078 5590
-
Mae’r *disgownt pellter yn berthnasol i’r sefydliadau sydd wedi eu lleoli 50 milltir neu fwy i ffwrdd o’r lleoliad
-
NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
-
Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad. Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o 23 Mehefin 2023 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00. Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl y dyddiad hwn.
-
Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
-
Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl 23 Mehefin 2023 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid.
-
Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
'Creu Cymunedau Gwych’ Cynhadledd Undydd Cymru Gyfan
Dyddiad
Dydd Mercher
05
Gorffennaf
2023, 10:00 - 15:30
Archebu Ar gael Tan
26 Mehefin 2023
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Ymgysylltu â'r gymuned
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Leonardo Hotel Cardiff (formerly Jury's Inn)
Cyfeiriad y Lleoliad
1 Park Place
Cardiff
CF10 3DN
0292 078 5590