Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2023
	5 Gorffennaf 2023 – Gwesty Leonardo Caerdydd (Jury's Inn gynt)
	Arddangoswch eich gwaith - categorïau newydd sbon - proses enwebu syml!
	Byddwch yn rhan o’n gwobrau cenedlaethol yn 2023 – ffordd wych o rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych rydych chi a thenantiaid yn ei wneud yn eich sefydliadau a’ch cymunedau
	Mae’r adeg o’r flwyddyn yma eto ble y byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Arfer Da blynyddol TPAS Cymru.  Mae gennym ni amrywiaeth wych o gategorïau i chi gystadlu gan gynnwys rhai newydd sbon.
	Mae enwebu ar gyfer y Gwobrau yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac rydym wedi symleiddio’r broses enwebu.
	.png) Unwaith eto eleni, bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn. Rydym mor gyffrous i gyhoeddi y bydd Rae Carpenter yn arwain ein Gwobrau eleni. Mae Rae yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Fel arbenigwraig iechyd a ffitrwydd a siaradwr Cymraeg rhugl, mae newydd orffen ffilmio’r 5ed gyfres o FFIT Cymru ar S4C – y rhaglen deledu trawsnewid bywyd. Creodd Rae yr ap/podlediad Cymraeg cyntaf erioed soffa i 5k, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr – a hyd yma mae wedi cael ei lawrlwytho dros 20 mil o weithiau! Mae Rae yn ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr ffitrwydd ac iechyd ar lawer o sioeau cylchgronau teledu a radio ac yn westai ar QVC UK, rhwydwaith siopa cartref a ffordd o fyw mwyaf y DU, fel eu harbenigwr iechyd a ffitrwydd, yn cynghori ar bob agwedd ar ffitrwydd yn y cartref
Unwaith eto eleni, bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn. Rydym mor gyffrous i gyhoeddi y bydd Rae Carpenter yn arwain ein Gwobrau eleni. Mae Rae yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Fel arbenigwraig iechyd a ffitrwydd a siaradwr Cymraeg rhugl, mae newydd orffen ffilmio’r 5ed gyfres o FFIT Cymru ar S4C – y rhaglen deledu trawsnewid bywyd. Creodd Rae yr ap/podlediad Cymraeg cyntaf erioed soffa i 5k, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr – a hyd yma mae wedi cael ei lawrlwytho dros 20 mil o weithiau! Mae Rae yn ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr ffitrwydd ac iechyd ar lawer o sioeau cylchgronau teledu a radio ac yn westai ar QVC UK, rhwydwaith siopa cartref a ffordd o fyw mwyaf y DU, fel eu harbenigwr iechyd a ffitrwydd, yn cynghori ar bob agwedd ar ffitrwydd yn y cartref
	 
	Mae hi’n hyfforddwr yoga a TRX ardystiedig ac yn ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae wedi cynghori ac ymgynghori ar gyfer llawer o gwmnïau corfforaethol ynghylch eu darpariaeth lles gweithwyr gan gynnwys Black Horse Finance, Legal & General, L’Oreal Llundain a Pharis a Chyngor Bro Morgannwg. Ceir rhagor o fanylion am Rae 
ar ei gwefan yma.
	 
	Eleni, mae gennym ystod wych o gategorïau gan gynnwys rhai newydd sbon.  Am fanylion llawn a’r meini prawf, gweler y Categorïau a’r Meini Prawf  ar gyfer pob categori sydd hefyd wedi eu nodi ar y ffurflenni enwebu unigol isod. Ceir rhagor o awgrymiadau cyffredinol yn y Ddogfen Ganllawiau
	Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho’r ffurflenni enwebu unigol ac i ddarllen mwy am feini prawf y beirniadu:
	- 
		Cynnwys Tenantiaid mewn Llunio Gwasanaethau
- 
		Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
- 
		NEWYDD Tîm Tenantiaid y Flwyddyn
- 
		Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
- 
		NEWYDD Llais y Tenant
- 
		Tenant y Flwyddyn
- 
		NEWYDD Ymgysylltu â Thenantiaid o ran Sero Net
- 
		Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr
	Mae’r broses ar gyfer enwebu yn syml:
	- 
		Dewiswch pa gategori yr ydych am ei gyflwyno a lawr lwythwch y ffurflen enwebu berthnasol o’r rhestr uchod
- 
		Darllenwch y Meini Prawf a’r Canllawiau sydd yn rhoi rhagor o fanylion i chi ar sut i wneud hyn
- 
		Dychwelwch eich enwebiad erbyn canol dydd 17 Mai 2023
	Os fydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw fel y gallwch drefnu i fod yn y Cinio Gala. 
	Gobeithiwn y medrwch gymryd rhan ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiad(au).
	Yn ogystal, yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal ein Cynhadledd Undydd ar Greu Cymunedau Gwych.  Bydd hwn yn ddigwyddiad ffantastig yn rhannu astudiaethau achos a syniadau ymarferol.  Ceir manylion am y gynhadledd undydd yma.
	Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi unrhyw agwedd o'r Gwobrau, cysylltwch â ni neu gweler y Pecynnau Nawdd sydd ar gael am ragor o wybodaeth.