Dydd Iau, 20 Ionawr 2022: 10:30am – 12noon (Zoom Webinar)
Mae rheoleiddio Cymdeithas Tai yng Nghymru yn newid yn dilyn adolygiad diweddar o’r ‘Fframwaith Rheoleiddio’. Ymhlith y newidiadau mae cyflwyno set newydd o ‘Safonau Rheoleiddio’ y bydd angen i Gymdeithasau Tai eu bodloni.
Mae’r ‘Safonau Rheoleiddio’ newydd hyn hefyd yn cynnwys safonau clir o ran Ymgysylltu â Thenantiaid a’r hyn a ddisgwylir gan Gymdeithasau Tai o ran clywed llais y tenantiaid.
Yn y weminar hon, bydd Ian Walters, Pennaeth Strategaeth a Pholisi Rheoleiddio Llywodraeth Cymru, yn ymuno â ni, a fydd yn darparu trosolwg o'r newidiadau hyn, gan ganolbwyntio ar beth mae hyn yn ei olygu o ran ymgysylltu â thenantiaid.
Yn ystod y weminar byddwn yn ymdrin â'r canlynol:
-
Cefndir yr adolygiad o'r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru
-
Trosolwg o’r newidiadau allweddol - gan gynnwys ‘Statws Rheoleiddio’ newydd a ‘Safonau Rheoleiddio’
-
Sut y bydd angen i Gymdeithasau Tai ddangos eu bod yn cwrdd â ‘Safonau Rheoleiddio’ sy'n gysylltiedig ag Ymgysylltu â Thenantiaid.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r weminar yn addas ar gyfer - Tenantiaid, Staff, Aelodau Bwrdd
Cost
Cyflwynir y sesiwn trwy Zoom Webinar. Cliciwch y ddolen hon i gofrestru'ch lle: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_zRLDqlTlSqeBX__ifd20tA
Noder
Yn dilyn y digwyddiad hwn byddwn yn cynnal digwyddiad rhwydwaith Staff i archwilio'r safonau rheoleiddio newydd sy'n ymwneud ag Ymgysylltu â Tenantiaid yn fwy manwl - mae'r digwyddiad Rhwydwaith hwn ar 8fed Chwefror yn rhad ac am ddim ac yn unigryw i aelod-sefydliadau TPAS Cymru. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.tpas.cymru/rhwydwaith-staff-ar-reoleiddio-cymdeithas-tai
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Diweddariad ar Reoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru: Safonau newydd ar gyfer Ymgysylltu â thenantiaid
Dyddiad
Dydd Iau
20
Ionawr
2022, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 19 Ionawr 2022
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad