Gweithio gyda Thenantiaid ar Berygl Llifogydd ar y Cyd
Nid yw llifogydd yn ddigwyddiad prin yng Nghymru mwyach. Gydag 1 o bob 7 o gartrefi a busnesau mewn perygl a newid hinsawdd yn achosi digwyddiadau tywydd amlach a mwy difrifol, dylai landlordiaid gymryd camau pendant i amddiffyn eu heiddo – a’u tenantiaid.
Mae Perygl Llifogydd yn Gyfrifoldeb ar y Cyd
Er mai landlordiaid sy’n gyfrifol yn ôl y gyfraith am atgyweirio difrod strwythurol wedi’i achosi gan lifogydd, mae gan denantiaid rôl i’w chwarae hefyd o ran adrodd am broblemau’n gynnar a chynnal a chadw’r eiddo yn gyfrifol. Ond y tu hwnt i rwymedigaethau cyfreithiol, mae cydweithio rhwng landlordiaid a thenantiaid yn allweddol er mwyn meithrin gwydnwch.
Gall llifogydd ddinistrio cartrefi, tarfu ar fywydau, ac effeithio’n barhaol ar iechyd meddwl. Mae tenantiaid sydd â’r wybodaeth gywir ac sydd wedi paratoi yn gallu amddiffyn eu heiddo’n well, ymateb yn gyflym mewn argyfwng, a dod dros lifogydd yn fwy effeithiol. Gall landlordiaid sy’n cyfathrebu’n agored â thenantiaid am berygl llifogydd leihau difrod, osgoi anghydfodau a meithrin ymddiriedaeth.
Pwyslais ar Dryloywder
Mae sefydliadau fel TPAS Cymru wedi galw am fwy o dryloywder gan landlordiaid ynghylch hanes llifogydd eiddo rhent. Mae tenantiaid yn haeddu gwybod a yw cartref wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau fel sicrhau yswiriant cynnwys.
Mae Llifogydd yn Costio Mwy nag Atgyweirio
Gall difrod yn sgil llifogydd achosi:
-
Biliau atgyweirio gwerth miloedd o bunnoedd am ddifrod strwythurol, dinistr i osodiadau mewnol, a cholledion mewn incwm rhent
-
Anghydfodau cyfreithiol os bydd tenantiaid yn teimlo na chawsant y wybodaeth neu’r gefnogaeth briodol
-
Premiymau yswiriant uwch neu hyd yn oed gael yswiriant wedi’i wrthod os effeithir ar eiddo dro ar ôl tro
-
Colli tenantiaid sy’n teimlo’n anniogel neu’n ddigefnogaeth
Ond dyma’r newyddion da: gall landlordiaid sy’n gweithio gyda thenantiaid i baratoi ar gyfer llifogydd leihau’r difrod, osgoi anghydfodau, ac amddiffyn eu buddsoddiadau.
Tenantiaid yw Eich Amddiffyniad Cyntaf
Mae tenantiaid rydych wedi ymwneud â nhw yn gallu:
-
Canfod yr arwyddion cynnar bod dŵr yn dod i mewn neu fod problemau draenio
-
Dilyn cynlluniau argyfwng a diogelu’r cynnwys
-
Adrodd am broblemau yn gyflym cyn iddynt waethygu
Drwy rannu gwybodaeth am berygl llifogydd a chynnwys tenantiaid mewn cynllunio am gydnerthedd, gall landlordiaid feithrin ymddiriedaeth a lleihau’r tebygolrwydd o gael biliau costus annisgwyl.
Hyfforddiant DPP Am Ddim sy’n Talu Ar Ei Ganfed
Er mwyn helpu landlordiaid i weithredu, mae Rhentu Doeth Cymru wedi partneru â Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnig cwrs DPP am ddim ar Reoli Llifogydd. Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn:
-
Egluro sut i asesu perygl llifogydd ar gyfer eiddo rhent.
-
Cynnig camau ymarferol i baratoi ac ymateb.
-
Egluro cyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid.
-
Dyfarnu 10 pwynt DPP tuag at adnewyddu trwydded.
“Rydym yn gobeithio y bydd y cwrs hwn yn cefnogi mwy o landlordiaid, asiantau, ac yn y pen draw tenantiaid ar hyd a lled Cymru i ddeall perygl llifogydd a chymryd camau i baratoi,” eglurodd Kelly McLauchlan o Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gweithredwch Nawr - Diogelwch eich Eiddo, eich Trwydded a’ch Enw Da
Nid problem i denantiaid yn unig yw llifogydd - mae’n risg busnes. Drwy weithredu nawr, gall landlordiaid:
· Osgoi difrod costus
· Sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith Cymru
· Gwella boddhad tenantiaid a’u cyfraddau cadw
· Cryfhau eu proffil adnewyddu trwydded gyda Rhentu Doeth Cymru
Peidiwch ag aros am y storm nesaf. Cymerwch y cwrs DPP am ddim ar Reoli Llifogydd heddiw yn Rhentu Doeth Cymru.
