Gwybodaeth ddilynol y gynhadledd
Mae wedi bod yn wych derbyn cymaint o sylwadau cadarnhaol am ein cynhadledd ar-lein ddiweddar. Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd - cawsom dros 450 o gwestiynau a sylwadau, dros y 2 ddiwrnod.
Roeddem wrth ein bodd gyda'r presenoldeb - dros 220 o bobl o bob rhan o Gymru i gyd yn frwd am dai a chymunedau, a sut i roi tenantiaid yn gyntaf.
Isod ceir rhywfaint o wybodaeth ddilynol o'r gynhadledd gan gynnwys dolenni i amryw o gyflwyniadau’r siaradwr.
-
Mae'r gwahanol gyflwyniadau o'r 2 ddiwrnod isod
-
Mae'r recordiad fideo o sesiwn Rheoleiddio Tai gydag Ian Walters (Tîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru) a Dr. Bob Smith o Fwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW) i'w weld yma.
-
Os buoch chi yn bresennol a heb gwblhau ein gwerthusiad cynhadledd eto, byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth, dim ond cwpl o funudau y mae'n eu cymryd - cliciwch yma http://doo.vote/cynhad
-
Gan ein bod wedi gorfod newid amser y sesiwn ‘Cyfarfodydd Hybrid ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid a’r Gymuned’ rydym yn mynd i ailadrodd y sesiwn ar gyfer mynychwyr y gynhadledd a allai fod wedi ei cholli neu os ydych chi eisiau clywed y sesiwn eto. Bydd hyn trwy Zoom. Manylion llawn a sut i gofrestru isod.
-----------------------
Cyfarfodydd Hybrid ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid a’r Gymuned: Yr hyn sydd angen ei wybod - David Wilton, TPAS Cymru
Ar ôl y pandemig, amcangyfrifir y bydd 90% o sefydliadau yn mabwysiadu cyfuniad o weithgareddau ar-lein a rhai personol. Yn syml, mae rhai pobl eisiau dychwelyd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, eraill ddim. Efallai na fydd yn werth am arian nac yn gyfeillgar i’r amgylchedd i wastad deithio i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, felly gall dull hybrid fod yn ateb. Mae cyfarfodydd hybrid yn fwy cymhleth na chyfarfod yn bersonol neu’n rhithiol: mae'n hawdd eu cael yn anghywir.
Yn y sesiwn hon bydd David yn trafod sut i ddechrau mewn cyfarfodydd hybrid a’r hyn sydd angen i chi feddwl amdano i wneud iddynt weithio ac osgoi rhai o’r anffodion cyffredin.
Ailadroddiad (am ddim) yw hon o'n Cynhadledd Flynyddol ar gyfer mynychwyr y gynhadledd a allai fod wedi'i cholli.