Cydnabod cyflawniadau a rhannu arfer da

 

 

Gadewch i ni rannu a chydnabod arfer da cyfranogiad tenantiaid a chymunedau ledled Cymru!

Gwyddom eich bod oll yn gwneud llawer o ymgysylltu gwych rhwng tenantiaid a chymunedau, sydd ddim wedi bod yn dasg hawdd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein Gwobrau yn ymroddedig i gydnabod y cyflawniadau hyn ac i rannu’r arfer da ar draws cymunedau a'r sector tai i gefnogi ac ysbrydoli eraill.

Mae'r Gwobrau hefyd yn darparu'r foment honno o fyfyrio, amser i ganolbwyntio ar y gwahaniaeth y mae cyfranogiad tenantiaid a chymunedau yn ei wneud.

Rydym wedi creu 5 categori ‘gwobr arfer dda’, cymrwch gip arnynt…..

 

Beth yw’r categorïau ar gyfer 2021?

Dyma’r 5 categori – gweler y canllawiau am y manylion llawn a meini prawf ar gyfer bob un ohonynt  

  1. Cymunedau yn Cefnogi Cymunedau Gwobrwyir i grŵp/prosiect a arweinir gan y gymuned
  2. Gwneud i Gyfranogiad Tenantiaid Weithio Ar-lein Gwobrwyir i Landlord a/neu grŵp tenantiaid
  3. Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau Gwobrwyir i Landlord a/neu grŵp tenantiaid
  4. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr Gwobrwyir i landlord cymdeithasol
  5. Tenant y Flwyddyn Gwobrwyir i denant/preswylydd landlord cymdeithasol

 

Beth yw’r broses o enwebu?

Gwyddom fod pawb yn brysur ar yr adeg hon felly rydym wedi ceisio gwneud y broses enwebu mor syml â phosibl - gweler y canllawiau ar sut i gyflwyno enwebiad (dolen uchod) a chwblhewch a dychwelwch y ffurflen enwebu hon erbyn y dyddiad cau o hanner dydd, dydd Gwener 19 Tachwedd.

Cofiwch y cewch ofyn cymorth gan staff TPAS Cymru: gallwn eich cynghori ynglŷn â’r meini prawf; llenwi’r ffurflen enwebu; a pa wybodaeth gefnogol y gallwch ei gynnwys.  Fodd bynnag, ni allwn eich cynorthwyo’n uniongyrchol wrth gwblhau eich enwebiad.