We're recruiting for the TPAS Cymru Board
Mae TPAS Cymru am recriwtio hyd at bedwar o bobl i ymuno â’n Bwrdd a all helpu i lunio dyfodol ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru a chynorthwyo TPAS Cymru i gyflawni amcanion cadarnhaol a sicrhau ein bod yn cael ein rheoli’n dda.
Ers 35 mlynedd, mae TPAS Cymru wedi bod yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid gwych a phwysigrwydd llais y tenant wrth ddarparu gwasanaethau tai a datblygu cymunedol ehangach. Cawn ein penodi a’n hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac fe’n cefnogir gan bob Cymdeithas Tai ac Awdurdod Lleol sy’n berchen ar gartref cymdeithasol yng Nghymru.
Mae TPAS Cymru am recriwtio hyd at bedwar o bobl i ymuno â’n Bwrdd a all helpu i lunio dyfodol ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru a chynorthwyo TPAS Cymru i gyflawni amcanion cadarnhaol a sicrhau ein bod yn cael ein rheoli’n dda.
Mae bod yn aelod o'r Bwrdd yn gofyn am ymrwymiad a chymhelliant ond gall roi boddhad mawr a ffordd wych o ddatblygu'n bersonol.
Mae angen i aelodau'r Bwrdd fod â chred gref yng ngwerth llais y tenant a manteision cydweithio a chydgynhyrchu wrth ddylunio gwasanaethau tenantiaid.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â sgiliau proffesiynol a ‘phrofiad byw’ ac nid oes gofyniad i fod yn rhan o’r Sector Tai gan ein bod yn gwerthfawrogi gwybodaeth ehangach er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym am sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o Gymru gyfan
Diddordeb?
Credwn ei bod yn bwysig bod gan bobl y sgiliau a'r gwerthoedd cywir yn hytrach na CV trawiadol. Er mwyn i ni weld eich rhinweddau a'r hyn rydych chi'n ei gynnig, lawrlwythwch y canlynol:
-
Prospectws Aelod Bwrdd
-
Cais: Ffurflen Gais a Matrics Sgiliau
-
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 17 Tachwedd am 5pm
Mae dyddiadau cyfweliadau ar-lein yn debygol o fod fel a ganlyn: 29 a 30 Tachwedd a 1 Rhagfyr
Os hoffech drafod y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Wilton drw@tpas.cymru a byddai’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Emma Parcell ac Amanda Lawrence
Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar ran Bwrdd TPAS Cymru