Wythnos Datgarboneiddio: Trawsnewid Cymru Gyda'n Gilydd
Sut y gall Tenantiaid a Staff Tai Arwain Cymru i Drawsnewidiad Carbon Isel
19 – 23 Ebrill 2021
Senedd Cymru oedd y senedd gyntaf yn y byd i gyhoeddi argyfwng hinsawdd. Mae'r sector tai wedi bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i'r dulliau mwyaf effeithiol ac addas i ddatblygu cartrefi a deunyddiau carbon isel / sero ar gyfer ôl-ffitio cartrefi.
Mae TPAS Cymru yn arwain y ffordd gyda'r wythnos datgarboneiddio gyntaf erioed yng Nghymru. Dyma gyfle unigryw i archwilio'r materion, cyfleoedd ac arloesedd. Byddwn yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd, sydd yn datblygu ac yn cael profiad uniongyrchol o'r buddiannau o ddatgarboneiddio cartrefi. Byddwch yn derbyn eu mewnwelediadau amhrisiadwy i un o'r heriau mwyaf y mae'r blaned hon wedi wynebu.
Bob dydd byddwn yn cynnal sesiwn wahanol:
-
Dydd Llun 19 Ebrill: 10.30 - 12:30: Sut y gall tai arwain Cymru i fyd carbon is (am ddim i denantiaid a tâl bach i aelodau o staff) Dyma ddigwyddiad agoriadol ein hwythnos ar y thema; Bydd Grŵp Arup a Thai Cymunedol Cymru yn nodi pam mae tai yn allweddol i ddatgarboneiddio Cymru. Mae'r heriau'n fawr, ond mae'r gwobrau hefyd.
Byddwn yn rhoi trosolwg gwych o'r materion allweddol sy'n ymwneud â'r agenda datgarboneiddio ac yn edrych ar sut mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at y newidiadau hyn. Bydd cyfle i gael cwestiynau a thrafodaeth gyda'r panel.
Mae hwn ar gyfer pawb mewn Tai (tenantiaid a staff). Byddwn yn cadw jargon mor isel â phosibl ac yn canolbwyntio ar yr hyn y mae'n ei olygu i chi
-
Dydd Mercher 21 Ebrill: 11:00 - 12:30: Y cyfan sydd angen i chi wybod am ôl-ffitio a sut y bydd o fudd i ni gyd (gyda tâl bach) Mae angen i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn! I denantiaid a staff tai, mae'n debyg mai hwn fydd y mater tai mwyaf ar gyfer y degawdau nesaf. Bydd angen i gannoedd o filoedd o gartrefi presennol yng Nghymru newid wrth i ni edrych ar leihau'r defnydd o ynni ar draws cartrefi presennol. Bydd yn effeithio arnoch chi.
-
Mae hwn yn ddigwyddiad 2 ran (gyda tâl bach)
Dydd Iau 22 Ebrill: 11:00 - 12:30 Cartrefi carbon isel dyfodolaidd - beth all tenantiaid ei ddisgwyl? Cael eich ysbrydoli gan y cartrefi cyffrous ac arloesol sy'n cael eu datblygu gyda thechnolegau a systemau gwresogi newydd.Gweld y dyfodol rŵan.
Dydd Iau 22 Ebril: 14:00 - 15:30: Dyma sut olwg fydd ar ein cymunedau yn y dyfodol Mae'n bryd ailfeddwl am ein cymunedau yng ngoleuni datgarboneiddio a'r pandemig. Rydym yn archwilio'r gymuned ehangach nid yn unig tai. Mae'n ymwneud â'n swyddi, ein heconomi a'n cymunedau. Os nad ydych yn gwybod beth yw Economi Gylchol...fe ddylech ddod i'r sesiwn yma gan ei fod yn allweddol i Gymru wrth fynd i'r dyfodol, Bydd Caffi Atgyweirio Cymru hefyd yn ymuno â ni i roi diweddariad ar eu gwaith.
Ydych chi'n denant - pam y dylech fynychu?
1. Mae'n debyg mai hwn fydd y mater mwyaf ym maes tai i ddod - yn parau am ddegawdau efallai.
2. Fe all olygu newidiadau sylweddol i'ch cartref.
3. Fe all newid sut rydych chi'n byw yn eich cartref.
4. Bydd yn effeithio ar renti, ond yn arbed ar filiau ynni
5. Sicrhau eich bod yn gallu llunio strategaeth eich landlord.
Os ydych yn gweithio ym maes tai:
1. Dyma'r mater mwyaf ar gyfer y degawd nesaf. Byddwch chi a'ch grwpiau tenantiaid yn elwa trwy ddysgu mwy.
2. Trwy ddod ynghyd â'ch tenantiaid bydd yn sicrhau bod pawb yn cael yr heriau a'r buddion yn gyflym.
3. Bydd yn gwneud eich swydd yn haws, gan y bydd tenantiaid yn gyfredol ar y materion a'r buddion.
4. Bydd tenantiaid yn cyffroi, ac yn fwy agored i'r newidiadau sydd o'u blaenau ac ati
Buddiannau eraill:
-
Mae sesiynau TPAS Cymru yn hawdd eu dilyn a'u deall.
-
Byddwch yn ennill gwybodaeth amhrisiadwy dros sesiynau miniog byr, gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau a chael eich barn wedi'i chlywed.
-
Bydd cyfleoedd i rwydweithio ag aelodau eraill.
-
Mae datgarboneiddio yn cael ei drafod rwan, ond yn aml o safbwynt technegol. Rydym am ganolbwyntio ar sut y gall wella ansawdd bywyd tenantiaid a chreu cymunedau mwy gwydn yng Nghymru.
-
Mae'n gyfle cyffrous i ddeall beth a sut y bydd dyfodol Cymru yn edrych.
Ddim yn aelod a ddim eisiau colli allan?
Ymunwch â TPAS Cymru trwy e-bost syml at [email protected] i sicrhau eich lle yn awr.
-
Mae TPAS Cymru, fel y sefydliad ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru, yn cynnal rhaglen brysur o ddigwyddiadau, hyfforddiant a sesiynau briffio blynyddol, ar gyfer tenantiaid a'r sector tai.
-
Yn 2020, bu inni brofi'r cysyniad o wythnosau thema gyda ffocws fel Wythnos Iechyd a Diogelwch, Gwydnwch Cymunedol, Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Yr hyn sy'n ei gwneud yn wahanol i sefydliadau eraill yw’r ystod o ddigwyddiadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd: rhai strategol, rhywfaint o addysg sylfaenol / addysg i wybodaeth ehangach a rhai digwyddiadau arbenigol i'w trafod yn fanwl ar rai pynciau.
-
Mae gennym gynlluniau ar gyfer rhagor o wythnosau thema eleni
Opsiynau archebu
Gallwch archebu i fynychu'r holl sesiynau'r wythnos honno neu sesiynau unigol drwy'r dolenni uchod
Noddir ein Hwythnos Datgarboneiddio gan